Tîm Rheoli Comisiynydd y Gymraeg

Efa Gruffudd Jones 

Comisiynydd y Gymraeg 

Yn wreiddiol o Dreforus, ger Abertawe, cafodd Efa ei haddysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, cyn mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio yn Adran y Gymraeg. 

Drwy gydol ei gyrfa mae hi wedi gwneud swyddi sydd wedi cyfuno ei diddordeb yn y celfyddydau, ac yn y Gymraeg. Gweithiodd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Celfyddydau Cymru cyn cael ei phenodi yn Brif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, yn 2004. 

Yn 2016, fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr ar y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sef y corff a ariennir gan Lywodraeth Cymru i roi arweiniad strategol i’r maes dysgu Cymraeg i oedolion yng Nghymru. Yn ystod ei chyfnod wrth y llyw datblygodd y Ganolfan gwricwlwm ac adnoddau newydd, gyda phwyslais ar y digidol, ac fe arweiniodd ar sefydlu prosiectau arloesol gan gynnwys y Cynllun ‘Cymraeg Gwaith.’  

Tan yn ddiweddar roedd Efa yn Gadeirydd Bwrdd Theatr Genedlaethol Cymru. Bu hefyd yn Is-Gadeirydd CWVYS, yn ymddiriedolwr o’r WCVA, ac yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg.  

Yn ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg dywed Efa ei bod eisiau sicrhau bod y pwerau sydd gan y Comisiynydd yn cael eu defnyddio i’w llawn botensial, bod defnydd cynyddol yn cael ei wneud o’r iaith, a bod y Comisiynydd yn chwarae rhan allweddol yn yr ymdrechion i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Gymraeg.  

Cychwynnodd Efa fel Comisiynydd y Gymraeg yn Ionawr 2023.  

Llun o Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd a Chyfarwyddwr Strategol

Gwenith Price

Dirprwy Gomisiynydd a Cyfarwyddwr Strategol

Mae Gwenith Llwyd Price yn Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg ac yn Gyfarwyddwr Strategol i Gomisiynydd y Gymraeg. Mae ei gwaith yn cynnwys gosod cyfeiriad strategol yn y maes rheoleiddio a gorfodi a hyrwyddo hawliau cyfreithiol defnyddwyr y Gymraeg. Mae hi hefyd yn arwain gwaith y sefydliad ym maes Llywodraethiant ac Adnoddau Dynol. 

Ar lefel dydd i ddydd, ei phrif rôl yw cynnal a chryfhau cydymffurfiaeth â dyletswyddau iaith ochr yn ochr gyda sicrhau bod y rhai sy’n dymuno byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gwybod sut gall Comisiynydd y Gymraeg gymryd camau i gefnogi hynny. Mae ganddi gymhwyster arweinyddiaeth strategol ac mae wedi arbenigo ymhellach ym maes rheoleiddio.

Mae’n briod a chanddi ddwy o ferched ac mae’n nain i ddau blant. Mae’n cyfrannu at fywyd pentref Pencaenewydd, lle mae’n byw. Mae’n ymddiddori mewn garddio.

Lowri Williams

Cyfarwyddwr Strategol

Lowri Williams yw'r Cyfarwyddwr Strategol sy’n gyfrifol am arwain gwaith y timoedd Polisi, Hybu, Isadeiledd ac Ymchwil, Cyfathrebu a Chyllid.

Un o Fangor yw Lowri. Ar ôl deuddeng mlynedd yn byw yng Nghaerdydd mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon.

Mae ganddi radd gyfun yn y Gymraeg a’r Sbaeneg o Brifysgol Aberystwyth lle astudiodd MA mewn Sbaeneg yn ogystal. Treuliodd flwyddyn o’i gradd yn gweithio yng Ngwlad y Basg ac wedi hynny treuliodd gyfnod yn crwydro Canolbarth a De America. Mae’n gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg ers deng mlynedd mewn swyddi ym maes polisi ac isadeiledd y Gymraeg, a chyn hynny bu’n arwain gwaith cynllunio corpws Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae hi wedi treulio’i gyrfa yn hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg gan weithio fel cydlynydd academaidd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol â’r nod o sefydlu cwrs astudiaethau cyfieithu proffesiynol, tiwtor Cymraeg i Oedolion, terminolegydd, a swyddog iaith un o elusennau’r loteri genedlaethol. Mae hefyd wedi gwasanaethu ar fwrdd Mudiad Meithrin a menter cymunedol Llety Arall. 

Ar hyn o bryd Lowri yw cadeirydd Elusen Ogwen sy’n dyrannu grantiau i brosiectau amgylcheddol a chymdeithasol yn Nyffryn Ogwen gydag arian o elw prosiect ynni cydweithredol lleol. Mae’r dyffryn hwnnw yn agos at ei chalon ac fe fydd yn mwynhau crwydro ei fynyddoedd a chydweithio a’i thad i gynnal gwefan am ei hanes gyfoethog.