Y gweithlu

Gweithwyr Coleg y Cymoedd

‘Rho Gynnig Arni’ – cynllun mentora a hyfforddiant i fagu hyder siaradwyr Cymraeg

Roedd Coleg y Cymoedd yn awyddus i gynyddu’r nifer o staff oedd yn defnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith. Daeth i sylw Rheolwr y Gymraeg bod nifer o staff wedi mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac yn siaradwyr Cymraeg er nad oeddynt yn ei defnyddio wrth eu gwaith. Penderfynodd y Coleg ddatblygu cynllun er mwyn annog siaradwyr Cymraeg o fewn gweithle’r Coleg i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg wrth eu gwaith. 

Cynllun ‘Hyfforddiant y Gymraeg’ Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd y bwrdd iechyd cyntaf i gyflogi tiwtor iaith Gymraeg mewnol. Rôl y tiwtor yw creu a theilwra cyrsiau addas ar gyfer anghenion y staff y bwrdd iechyd. Drwy weithio gyda’r tiwtor mae’r dysgwyr yn gwella eu sgiliau iaith a chynyddu eu hyder er mwyn medru defnyddio eu Cymraeg yn y gweithle a thu hwnt. Gwneir hyn drwy ddarparu cyfleoedd hyfforddiant iaith ac adnoddau eraill iddynt, er mwyn gwella eu gallu i ddarparu gofal a gwasanaeth iechyd yn Gymraeg.

Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu defnydd o’r Gymraeg

O ganlyniad i'r ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddatblygu polisi ar ddefnyddio'r Gymraeg yn fewnol, mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi strategaeth o'r enw Cymraeg- Mae'n perthyn i ni i gyd. Nod y Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg o fewn y sefydliad yw y bydd eu holl staff yn deall Cymraeg erbyn 2050. Bydd hyn yn galluogi’r staff i weithio yn y Gymraeg o ddydd i ddydd, gyda golwg ar weld cynnydd sylweddol yn y defnydd a wneir o’r iaith o ganlyniad i hynny.

Annog defnydd o’r Gymraeg yn fewnol

Yn ddiweddar, fe luniodd staff sy’n gweithio i Gomisiynydd Plant Cymru gynllun fyddai’n cefnogi’r defnydd o’r iaith Gymraeg o fewn y sefydliad. Cafodd ‘Fy Addewid Cymraeg’ ei greu a’i fabwysiadu fel ffordd o gynnal y cynnydd yn nefnydd siaradwyr rhugl a dysgwyr o’r iaith Gymraeg.

Newid iaith gwaith 

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithredu cynllun i gynyddu'r defnydd o’r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth fewnol y sefydliad. Y bwriad yw annog awyrgylch corfforaethol positif Cymraeg. 

Gwneud pethau’n wahanol 

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi gwella'i dulliau o hysbysebu ac ymgeisio er mwyn recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg.

Newid arferion iaith staff 

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi creu rhaglen i annog staff i siarad Cymraeg yn anffurfiol gyda’i gilydd. 

 

Cynyddu capasiti sgiliau Cymraeg y gweithlu 

Dros nifer o flynyddoedd, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi mynd ati i weithredu trefniadau arweinyddiaeth, recriwtio a hyfforddiant. Mae hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y capasiti i wasanaethu’r cyhoedd drwy gyfrwng y Gymraeg.