Hybu a hwyluso

Creu ymgyrchoedd marchnata dwyieithog effeithiol

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi datblygu proses gadarn ar gyfer creu ymgyrchoedd marchnata dwyieithog effeithiol, gan sicrhau bod y cynnyrch terfynol o’r ansawdd gorau posibl ac yn cyrraedd y gynulleidfa darged ehangaf bosibl yn y ddwy iaith.

Strategaeth Hybu'r Gymraeg Cyngor Sir Ynys Môn

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu strategaeth effeithiol i hybu’r Gymraeg ar yr ynys.   

Ofcom yn codi ymwybyddiaeth eu cyflogeion o’r Gymraeg

Mewn ymateb i ofynion y safonau i ddarparu cyrsiau hyfforddi er mwyn i’w cyflogeion ddatblygu ymwybyddiaeth o’r Gymraeg, mae Ofcom wedi cynhyrchu fideo sydd wedi denu canmoliaeth gan eu staff ar draws gwledydd Prydain.

Cynyddu cyfleoedd i bawb

Nod y prosiect dan sylw yw cyfrannu’n gadarnhaol at gynyddu’r niferoedd o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy’n mynd i ysgolion Cymraeg yn y pen draw.

Dwy ddynes yn gorwedd yn y gwair

Teilwra 16 oed+

Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn ymwybodol o’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith, mae Coleg Cambria yn casglu gwybodaeth am fyfyrwyr o’u hysgolion blaenorol.

Dynes yn eistedd wrth ddesg gyda poster Iaith Gwaith

Mesur cynnydd

Wrth greu strategaeth hybu’r Gymraeg yn Sir Gâr, roedd y Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd yr holl weithgareddau ar lawr gwlad a oedd yn cyfrannu at gynyddu defnydd a hyder siaradwyr ar draws y sir.

Arwydd marchnad Caerdydd

Datblygu Caerdydd ddwyieithog

Mae amcanion Strategaeth Hybu 5 mlynedd Cyngor Caerdydd yn  talu sylw arbennig i ddulliau ymgynghori mewnol ac allanol y Cyngor.

Hybu gwasanaethau Cymraeg

Cynhaliodd Cyngor Sir Gâr ymgyrch i hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg y cyngor ac i annog y cyhoedd i gysylltu â’r cyngor yn Gymraeg.