Mae Tribiwnlys y Gymraeg wedi cadarnhau dyfarniad y Comisiynydd ar achos yn ymwneud â’r diffyg defnydd o’r Gymraeg mewn cynadleddau’r wasg yn ystod y pandemig. 

Mae’r Tribiwnlys hefyd wedi cytuno â barn y Comisiynydd bod yr achos hwn wedi amlygu bwlch yn y safonau y dylid mynd i’r afael ag ef. O ganlyniad, mae’r Comisiynydd wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru er mwyn gwella’r ddarpariaeth ar gyfer y dyfodol.   

Meddai Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, 

“Mae’r Comisiynydd wedi ymrwymo i sicrhau tegwch, cyfiawnder a hawliau i siaradwyr Cymraeg. Mae’r dyfarniad hwn yn dangos bod y Comisiynydd yn ymchwilio i gwynion yn effeithiol ac yn dyfarnu mewn modd sydd yn gadarn a theg, ar sail tystiolaeth, ac yn barod i weithredu ar ran pobol er mwyn gwella’r ddarpariaeth yn barhaus. 

“Mewn cyfarfod diweddar o Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith nodwyd fod heriau tebyg wedi codi mewn gwledydd dwyieithog eraill ar ddechrau’r pandemig.  

“Wrth drafod yr angen i ymateb yn gyflym er mwyn sicrhau bod ieithoedd swyddogol yn cael eu parchu wrth gyfathrebu mewn cyfnod o argyfwng, cydnabuwyd fod Cymru yn arwain y ffordd drwy sicrhau hawliau ieithyddol gan reoleiddio yn bwrpasol ac yn addas.” 

Gallwch ddarllen adroddiad y Tribiwnlys yn llawn yma.