Graffeg yn cynnwys eiconau o bobl, bodiau i fyny, calon a swigod siarad.

Ar 7 Rhagfyr, bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal Diwrnod Hawliau’r Gymraeg i ddathlu profiadau siaradwyr Cymraeg wrth ddelio â sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae sefydlu hawliau i bobl ddefnyddio’r Gymraeg wedi creu ‘newid byd’ ym mhrofiadau siaradwyr Cymraeg, yn ôl y Comisiynydd, ac mae’n croesawu ymrwymiad gwleidyddol i ehangu’r hawliau hyn. Mae ymrwymiad yng Nghytundeb Cydweithio Llafur Cymru a Phlaid Cymru i ehangu safonau’r Gymraeg i ragor o sectorau, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, cwmnïau dŵr, a chymdeithasau tai

Dywedodd Aled Roberts: ‘Ers i safonau gael eu cyflwyno, rwyf wedi gweld newid byd o ran hawliau siaradwyr Cymraeg a dysgwyr. Erbyn hyn, rydym yn gweld sefydliadau yn ystyried y Gymraeg wrth iddynt gynllunio eu gwasanaethau, ac yn gynyddol mae gan y cyhoedd hyder bod gwasanaeth o ansawdd ar gael iddynt yn yr iaith. Mae’r safonau hefyd wedi arwain at sefydlu hawliau i weithwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, gan gynyddu’n sylweddol y cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith bob dydd.

‘Rwy’n croesawu’r ymrwymiad gwleidyddol i ymestyn y safonau i ragor o sefydliadau; ac yn edrych ymlaen at gydweithio â’r Llywodraeth i wireddu’r polisi hwn yn ddi-oed.’

Mae Diwrnod Hawliau’r Gymraeg yn gyfle i ddathlu a hyrwyddo’r hawliau a chlywed sut mae defnyddio gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg wedi effeithio’n gadarnhaol ar fywydau pobl. Mae ymchwil y Comisiynydd yn dangos fod gan rai sefydliadau le i wella’r ffordd maent yn trin y Gymraeg, ac mae’r ymgyrch yn fodd o ddangos i’r sefydliadau hynny beth sy’n bosibl ei gyflawni a pham fod hynny’n bwysig. Bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi cyfres o fideos ar ei wefan a chyfryngau cymdeithasol o staff sefydliadau cyhoeddus a’r cyhoedd yn sôn am eu profiadau nhw’n defnyddio’r Gymraeg. Bydd degau o sefydliadau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru hefyd yn ymuno yn y dathliadau drwy hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg.

Mae Shumita Palit, nyrs yn Uned Strôc Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, wedi dysgu Cymraeg. Dywedodd Shumita: ‘Dwi’n defnyddio’r iaith bob dydd yn y gwaith yn yr ysbyty. Mae’n bwysig siarad Cymraeg gyda’r cleifion yn enwedig os ydyn nhw wedi cael strôc. Efallai eu bod wedi colli’r gallu i siarad Saesneg, neu eu bod yn teimlo’n fregus yn yr ysbyty. Mae defnyddio’r Gymraeg yn bwysig er mwyn sicrhau asesiadau cywir o gyflwr y claf, ac er mwyn gwneud iddo deimlo’n gyfforddus.’

Cofrestrydd gyda Chyngor Wrecsam yw Lois Russell-Fone. Penodwyd hi yn gofrestrydd er mwyn gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg yn y sir. Meddai Lois: ‘Rydw i’n cofrestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau yn ardal Wrecsam. Mae pobl yn gwerthfawrogi’r cyfle i allu cofrestru’r digwyddiadau pwysig hyn yn y Gymraeg, a dwi’n falch mod i’n gallu rhoi cefnogaeth iddyn nhw yn yr iaith o’u dewis nhw.’

Er mwyn codi ymwybyddiaeth o hawliau iaith ymysg siaradwyr Cymraeg newydd, bydd Aled Roberts yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb arbennig am 7yh ar Ddiwrnod Hawliau’r Gymraeg (7 Rhagfyr), a gaiff ei threfnu ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae gwers Gymraeg hefyd wedi ei pharatoi gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg ac ar gael ar eu gwefan yma.

Gallwch gefnogi’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #MaeGenIHawl.