Comisiynydd y Gymraeg yn cyflwyno tystysgrif Cynnig Cymraeg i WWF

WWF yw un o sefydliadau cadwraeth elusennol annibynnol mwyaf y byd, sy’n gweithredu mewn bron i 100 o wledydd. Mae’r cefnogwyr yn helpu i adfer natur a mynd i’r afael â phrif achosion dirywiad natur, yn arbennig y system fwyd a newid hinsawdd.  

Mae WWF Cymru yn rhan o WWF-UK ac mae swyddfa yng Nghaerdydd. Yng Nghymru maent yn gweithio ar weithredu ac i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur adref a thramor, gan ddylanwadu ar gyfreithiau amgylcheddol a chynaliadwyedd. 

Er bod y brif swyddfa yng Nghaerdydd, mae staff WWF Cymru yn gweithio ar sail hybrid. Lleolir y staff ar draws Cymru, gyda hanner y tîm yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu’n siaradwyr newydd.  

Fe wnaethon ni eu holi am eu Cynnig Cymraeg a’r budd sy’n dod o dderbyn y gymeradwyaeth hon.  

Pam ei bod yn bwysig eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg? 

Er bod WWF yn sefydliad rhyngwladol, mae ei llwyddiant yn dibynnu ar weithio o fewn a gyda chymunedau ac unigolion. Parch yw un o werthoedd allweddol WWF. Lle bynnag rydym yn gweithio rydym yn anelu at ddangos parch at ddiwylliant, iaith a thraddodiadau cymunedau.  

O’r adeg pan sefydlwyd WWF Cymru yn 2000 roedd gweithredu’n ddwyieithog yn flaenoriaeth, gan roi pwysigrwydd cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg. Gan adeiladu ar y Polisi Iaith Gymraeg gwreiddiol, bydd cynllun y Cynnig Cymraeg yma yn ail-adrodd ac yn cadarnhau ymrwymiad WWF i weithredu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y DU. 

Ydy’r Cynnig Cymraeg wedi gwneud gwahaniaeth i’ch gwaith? 

Yn bendant, fel rhan o sefydliad rhyngwladol mae cael cynllun y Cynnig Cymraeg yn ei le yn rhoi canllawiau clir i staff ar sut i weithredu a darparu gwasanaethau yng Nghymru, ac yn rhoi statws swyddogol i’r iaith. Er bod staff sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru yn gyfarwydd â hyn, nid yw hyn yn wir am y rheiny sy’n gweithio y tu hwnt i Glawdd Offa.  

Drwy ddefnyddio’r cynllun fel canllaw ac arf i berswadio rydym wedi llwyddo i ddylanwadu ar gynnwys ymgyrchoedd enfawr ar draws y DU megis Achub ein Hynysoedd Gwyllt (Save our Wild Isles) gafodd ei ysbrydoli gan gyfres Wild Isles y BBC, yn ogystal ag ymgyrch Cynllun Natur y Bobl (People’s Plan for Nature). Paratowyd ystod o ddeunyddiau marchnata a chyfathrebu oedd nid yn unig yn ddwyieithog, ond hefyd yn defnyddio geirfa a delweddau addas ar gyfer Cymru.   

Dyma Gyfarwyddwr WWF Cymru, Gareth Clubb yn sôn am ei daith ef gyda’r iaith, a pham ei fod e’n credu ei bod yn bwysig i elusennau weithredu’n ddwyieithog yng Nghymru.  

“Dwi wedi bod ar siwrnai o hunan-addysg i ddysgu'r iaith: yn fy ysgolion cyfrwng Saesneg, gyda ffrindiau Cymraeg eu hiaith, yn byw mewn ardaloedd lle roedd Cymraeg i'w chlywed bob dydd, ac yn gweithio drwy'r Gymraeg. Mae hi wedi bod yn siwrnai llawn hwyl a boddhad, gan agor drysau a ffenestri nad oeddwn yn ymwybodol o'u bodolaeth wrth gychwyn. Mae'r Gymraeg yn hynod o bwysig i ni fel elusen. Mae gennym awydd gref i gyfathrebu'n effeithiol, a dwyn perswâd ar bobl ym mhob cwr o Gymru, ac ar y sawl sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar fyd natur a'r amgylchedd a'r bobl sy'n byw ynddi. Hir oes i Gynnig Cymraeg WWF Cymru felly, a hir oes i'r iaith a fu'n atseinio dros ein hamgylchedd ers cannoedd o flynyddoedd.” 

A dyma ymateb Prif Weithredwr WWF-UK, Tanya Steele i’r Cynnig Cymraeg. 

“Ein cenhadaeth yn WWF yw i greu byd lle gall pobl a bywyd gwyllt ffynnu gyda’i gilydd ac mae ein llwyddiant yn dibynnu ar weithio mewn a gyda cymunedau ac unigolion. Lle bynnag rydyn ni’n gweithio ein nod yw dangos parch ddofn at ddiwylliant, iaith a thraddodiadau’r cymunedau. Gyda’r Cynnig Cymraeg newydd hwn rydym yn falch o fod yn gweithio ar sail gadarn o ddarparu ystod eang o wasanaethau drwy’r Gymraeg ac o gydnabod ei phwysigrwydd yn nhreftadaeth y DU, ac yn bwysicach na hynny, ei dyfodol.” 

Pa dri pheth mae WWF Cymru yn eu cynnig yn y Gymraeg? 

  • Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol WWF Cymru yn gwbl ddwyieithog ac ymholiadau yn y Gymraeg yn cael eu hateb yn y Gymraeg. 
  • Mae’r holl gyfathrebiadau, cylchlythyron, hysbysebion swyddi neu ddeunyddiau marchnata a welwch gan WWF Cymru yn gwbl ddwyieithog. 
  • Mae pob aelod o staff yn derbyn cefnogaeth ac anogaeth i ddysgu Cymraeg.