Addurniadau Nadolig yn hongian ar cortyn

Dros y Nadolig, bydd nifer o elusennau Cymru yn gwerthu cynnyrch Cymraeg yn eu siopau.

Mae elusennau Tŷ Gobaith, MacMillan a’r NSPCC yn rhan o rwydwaith o elusennau sy’n cael eu harwain gan dîm Hybu, Comisiynydd y Gymraeg. Bwriad y rhwydwaith yw annog busnesau ac elusennau i ddefnyddio’r Gymraeg gan rannu arferion da â’i gilydd. 

Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau Cymorth Canser Macmillan Cymru: 'Mae Macmillan yn falch o allu cynnig amrywiaeth o gardiau Nadolig Cymraeg, gan gynnwys rhai wedi’u personoli, i’n cefnogwyr i godi arian. Bydd hyn yn helpu pobl sy’n byw gyda chanser yng Nghymru. Mae’r rhain ar gael i’w prynu yn ein siop ar-lein.

'Rydym am i bobl sydd angen ein cymorth a phobl sydd am ein cefnogi ni, allu gwneud hyn drwy gyfrwng y Gymraeg pryd bynnag mae hynny’n bosibl.'

Mae Tŷ Gobaith hefyd yn gwerthu cardiau Nadolig eleni, ac mae Kelly Hughes Swyddog Codi Arian Cynorthwyol sy’n gweithio i’r elusen yn dweud bod rheswm pwysig fod yr elusen yn cynnig darpariaeth yn y Gymraeg. 'Fel elusen leol mae’n bwysig iawn i ni gadw’n agos at ein cymunedau lleol, a’r iaith Gymraeg yw un o’r ffyrdd y gallwn wneud hyn. Mae gallu derbyn cymorth a chefnogaeth yn y Gymraeg yn golygu’r byd i’n teuluoedd. Mae gan lawer o’n plant anawsterau cyfathrebu, felly mae gallu cynnig siarad gyda nhw yn eu hiaith gyntaf yn bwysig iawn.'

Yn ôl Sian Regan, Swyddog Datblygu elusen yr NSPCC: 'Mae gallu darparu gwybodaeth a gwasanaethau yn y Gymraeg yn bwysig iawn i'r NSPCC o ran ein helpu i gyflawni ein nod o atal cam-drin ac esgeuluso plant. Rydym yn falch iawn bod y llythyrau hyn ar gael yn y Gymraeg ac maent bob amser yn boblogaidd gyda'n cefnogwyr.'

Meddai Awel Trefor, Uwch Swyddog Hybu gyda Chomisiynydd y Gymraeg: 'Rydym yn falch iawn o weld yr elusennau’n gwerthu cardiau Cymraeg eto eleni. Fel pobl sy’n byw yng Nghymru, mae’n bwysig ein bod yn gallu prynu cynnyrch yn ein hiaith a dymuno ‘Nadolig llawen’ i’n teuluoedd a’n ffrindiau yn y Gymraeg. Hoffwn ganmol yr elusennau am eu hymrwymiad i’r Gymraeg yn ein rhwydwaith elusennau. Edrychwn ymlaen at barhau’r cydweithio yn y dyfodol.' 

Os ydych chi’n gweithio i elusen, ac eisiau cymorth gan Gomisiynydd y Gymraeg ar eich darpariaeth Gymraeg, mae croeso i chi gysylltu gyda hybu@cyg-wlc.cymru.