Efa Gruffudd Jones

Mewn digwyddiad ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd bydd Efa Gruffudd Jones, yn ei phrifwyl gyntaf fel Comisiynydd y Gymraeg, yn adlewyrchu ar ei chyfnod yn y swydd hyd yn hyn, ac yn amlinellu ymhellach ei gweledigaeth i’r dyfodol. Un o’i blaenoriaethau yw cynyddu defnydd o’r iaith yn y gweithle a’r gymuned a chaiff dogfen gyngor ar ddefnydd mewnol o’r Gymraeg mewn gweithleoedd ei chyhoeddi gan swyddfa’r Comisiynydd yn ystod yr wythnos.

Cynhelir y digwyddiad heddiw, (Llun, 7fed o Awst) ym Mhabell y Cymdeithasau am 11 o’r gloch ac yn ymuno ag Efa i drafod sut y gellir cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a’r gymuned fydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd yn gyfle hefyd i glywed gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a fydd yn tynnu sylw at gynllun sy’n cynorthwyo cyrff i fynd i’r afael â’r mater o ddysgu Cymraeg yn y gweithle.

Y cyflwynydd a’r darlledwr Iwan Griffiths fydd yn cadeirio’r digwyddiad.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones mae’r chwe mis cyntaf wedi bod yn gyfle i drafod gyda phobl ar draws Cymru sydd wedi tynnu sylw at y cyfleoedd a’r heriau o ran y Gymraeg,

“Wrth dderbyn y swydd hon roeddwn yn llawn ymwybodol o’r heriau, yn enwedig yn dilyn cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad diweddar. Ond rwyf wedi fy ysbrydoli gan yr agweddau cadarnhaol a’r ymdrechion bwriadus sy’n cael eu gwneud i hwyluso defnyddio’r Gymraeg ar draws y wlad, gan sefydliadau ac unigolion fel ei gilydd.

“Ers y cychwyn rwyf wedi nodi fod angen i’r gwaith hollbwysig o reoleiddio cydymffurfiaeth gyda Safonau’r Gymraeg fynd law yn llaw gyda’r gwaith o hybu a hyrwyddo defnyddio’r iaith gan fod angen i’r Gymraeg fod yn iaith fyw, naturiol sydd i’w chlywed o ddydd i ddydd.  

“Bydd y digwyddiad fore Llun yn gyfle i drafod sut allwn ni gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein gweithleoedd ac i glywed am sut mae rhai o’n cyrff cyhoeddus wedi mynd ati i wneud hynny yn llwyddiannus.

“Er mwyn mynd i’r afael â hyn ymhellach, rwyf yn falch iawn ein bod ar fin cychwyn prosiect strategol bwysig i gynyddu faint o’r Gymraeg sydd yn cael ei defnyddio o fewn sefydliadau cyhoeddus. Rydym yn cyhoeddi pecyn sy’n cynnig camau gweithredu ymarferol y gall pob sefydliad eu hystyried.

“Ond rydym hefyd am fod yn fwy uchelgeisiol mewn rhai sefydliadau lle mae nifer fawr o staff yn meddu ar sgiliau Cymraeg. Hoffwn weld mwy o gyrff yn ystyried sut allant weinyddu drwy’r Gymraeg, neu gynyddu faint o’u gwaith dydd i ddydd sy’n digwydd yn y Gymraeg. I’n cynorthwyo gyda hyn rwyf wedi gwahodd cyrff i fod yn rhan o grŵp llywio fydd yn cwrdd am y tro cyntaf fis nesaf.

“Bydd y grŵp yn ein cynorthwyo i greu modelau o arfer da a chefnogaeth ymarferol y gallwn wedyn rannu â sefydliadau a bydd hyn yn ei dro gobeithio yn newid arfer at y dyfodol.

“Rwy’n edrych ymlaen at y drafodaeth y bore ma ac yn estyn croeso cynnes i bawb.”

Drwy gydol yr wythnos ar stondin Comisiynydd y Gymraeg bydd cyfle i fwynhau gweithgareddau gan amryw o gyrff sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg ac sydd wedi ymroi i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd megis Clybiau Plant Cymru, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gȇm a Bywyd Gwyllt Cymru ac NSPCC Cymru.

Ar fore Mercher, 9fed o Awst ac mewn partneriaeth â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, cynhelir trafodaeth ym mhabell Cytûn i ystyried gwaith ymchwil gan y Comisiynydd ar y budd sydd i elusennau o gynnal ymgyrchoedd codi arian yn dwyieithog.

Bydd y Comisiynydd a’i swyddogion hefyd yn cymryd rhan mewn amryw o ddigwyddiadau a thrafodaethau ar hyd yr wythnos gan gynnwys gyda’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ar y dydd Mawrth a TUC Cymru ar y dydd Iau.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, mae’r wythnos hon yn gyfle unigryw i ymgysylltu a chlywed barn,

“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad i’w drysori, yn ofod lle gellir ymfalchïo yn ein hiaith a’n diwylliant ac rwy’n hyderus y bydd torfeydd niferus yn heidio i Foduan. Os fyddwch chi yno dewch draw am sgwrs – byddwn yn falch o’ch gweld.”