Cwyn
Cyflwynodd aelod o’r cyhoedd gŵyn am sefydliad cenedlaethol oedd yn cyhoeddi mwy o bodlediadau Saesneg na rhai Cymraeg ar blatfformau megis Spotify, Google Podcasts ac Apple Podcasts.
Cododd hyn bryder y gallai’r sefydliad fod yn torri Safonau’r Gymraeg. O ganlyniad, agorodd y Comisiynydd ymchwiliad i’r mater.
Cyd-destun
Mae safon 33 o Reoliadau Safonau’r Gymraeg Rhif 2 wedi ei osod ar y sefydliad. Er mwyn cydymffurfio gyda safon 33 mae’n rhaid i’r sefydliad lunio deunydd cyhoeddusrwydd a hysbysebu yn Gymraeg, a pheidio trin fersiynau Cymraeg yn llai ffafriol na fersiynau Saesneg.
Deunydd hysbysebu yw deunydd sy’n hyrwyddo a hybu’r defnydd o wasanaethau sefydliad.
Deunydd cyhoeddusrwydd yw deunydd sy’n esbonio, neu’n rhoi mwy o wybodaeth am waith sefydliad. Gall y deunyddiau hyn gynnwys pamffledi, llyfrynnau, ffilmiau, fideos a chlipiau sain sy’n cael eu defnyddio ar y cyfryngau ac mewn cynadleddau ac arddangosfeydd ac ati.
Canfyddiadau’r ymchwiliad
Mae adran 67 Mesur y Gymraeg yn eithrio sefydliad rhag cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg os yw’r safon honno’n ymwneud â darlledu.
Roedd y sefydliad o’r farn fod podlediadau yn dod o dan yr eithriad hwn, a dyna’r rheswm pam ei fod wedi cyhoeddi mwy o bodlediadau Saesneg na Chymraeg. Dadleuodd hefyd, hyd yn oed pe bai podlediadau yn dod o dan ofynion Safonau’r Gymraeg, bod cynhyrchu llai o bodlediadau Cymraeg yn rhesymol a chymesur.
Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad mai’r weithred o ddarlledu ei hun sy’n cael ei eithrio, a’r bwriad yw sicrhau rheolaeth a rhyddid golygyddol i ddarlledwyr dros yr hyn maent yn ei ddarlledu.
Nid yw adran 67 yn eithrio'r sefydliad hwn rhag cydymffurfio â safon 33 pan yn cyhoeddi podlediadau gan nad yw cyhoeddi podlediadau yn disgyn o fewn diffiniad "darlledu" oherwydd
(a) nid yw’r sefydliad yn ddarlledwr
(b) nid yw’r gofyniad i’r sefydliad gydymffurfio â safon 33 pan yn cynhyrchu a dosbarthu podlediadau yn effeithio ar ei ryddid golygyddol ynghylch y podlediadau
(c) nid yw cynhyrchu fideos neu glipiau sain i’w lawrlwytho oddi ar wefan neu wasanaeth arall ar y we yn gyfystyr â darlledu.
Gwrthododd yr ymchwiliad ddadl y sefydliad fod cynhyrchu llai o bodlediadau Cymraeg na rhai Saesneg yn rhesymol a chymesur. Mae’r gofyniad i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg yn y sefyllfa hon yn golygu y dylid cael yr un faint o bodlediadau Cymraeg a Saesneg, o ansawdd a sylwedd cyfartal.
Dyfarnodd y Comisiynydd fod y sefydliad wedi methu cydymffurfio â safon 33.
Beth sydd rhaid gwneud i gydymffurfio?
- Os yn cynhyrchu podlediadau Saesneg, yna dylid cyhoeddi podlediadau Cymraeg gyda themâu cyfatebol.
- Dylid cynhyrchu yr un nifer o bodlediadau Cymraeg a Saesneg.
- Dylai profiad y rhai sy’n gwrando ar y podlediadau Cymraeg gyfateb i brofiadau’r rhai sy’n gwrando ar y podlediadau Saesneg.
- Dylid hybu’r podlediadau Cymraeg.
Gwybodaeth bellach
Mae’r mater hwn yn berthnasol i safon 33 o Reoliadau Safonau’r Gymraeg - Rhif 2.