Cwyn
Cyflwynodd aelod o’r cyhoedd gŵyn ar ôl iddo dderbyn e-bost uniaith Saesneg gan ei awdurdod lleol am drefniadau casglu gwastraff gardd.
Roedd yr awdurdod lleol o’r farn ei fod wedi cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg gan fod yr achwynydd wedi dweud wrthynt yn y gorffennol mai Saesneg oedd ei ddewis iaith.
Cyd-destun
Pan mae sefydliad yn anfon yr un ohebiaeth ar nifer o bobl, mae Safonau’r Gymraeg yn creu dyletswydd ar sefydliadau i anfon fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth ar yr un pryd a’r fersiwn Saesneg.
Canfyddiadau’r ymchwiliad
Fe wnaeth yr ymchwiliad ddarganfod fod yr e-bost anfonodd yr awdurdod lleol at yr achwynydd yn ohebiaeth oedd yn cael ei anfon at bawb oedd wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd. Roedd yr e-bost yn cael ei anfon ar ddiwedd cyfnod y tanysgrifiad, oedd yn amrywio o un person i’r llall.
Er fod yr e-bost wedi ei anfon at gyfrif personol yr achwynydd, ac er nad oedd pawb yn derbyn yr ohebiaeth yr un pryd, nid oedd cynnwys yr e-bost wedi ei deilwra i’r achwynydd mewn unrhyw ffordd, gyda’r un neges yn union yn cael ei rhoi.
Roedd hyn yn golygu mai’r safonau ynghylch gohebiaeth i nifer o bobl, ac nid y safonau ynghylch gohebiaeth i unigolion, oedd yn berthnasol. Drwy fethu ag anfon fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth ar yr un pryd a’r fersiwn Saesneg ohono, roedd yr awdurdod lleol wedi torri gofynion Safonau’r Gymraeg.
Beth sy’n rhaid gwneud i gydymffurfio?
Rhaid anfon fersiwn Gymraeg o ohebiaeth ar yr pryd â’r fersiwn Saesneg pan yn anfon gohebiaeth at nifer o bobl.
Rhaid gwneud hynny os yw’r person sy’n derbyn yr ohebiaeth wedi datgan mai Saesneg yw ei ddewis iaith.
Rhaid gwneud hynny hefyd os nad yw’r ohebiaeth yn cael ei anfon at bawb ar yr un pryd, ac os yw manylion cyswllt y person sy’n derbyn yr ohebiaeth wedi ei bersonoli (e.e. enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost).
Gwybodaeth bellach
Mae’r mater hwn yn berthnasol i safon 4 o Reoliadau Safonau’r Gymraeg - Rhif 1.