Panel darllenwyr: hwyluso a chynyddu defnydd o ddeunydd Cymraeg
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn defnyddio grŵp o wirfoddolwyr (sy’n cael eu hadnabod fel ‘panel darllenwyr’) i hwyluso a chynyddu defnydd o ddeunydd Cymraeg.
Pecyn cymorth technoleg dwyieithog: profiad da i’r defnyddiwr
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu pecyn cymorth i sicrhau bod technoleg gwybodaeth yn cynnig profiad Cymraeg da i’r defnyddiwr. Pwrpas y pecyn yw esbonio sut mae rhoi’r defnyddiwr yn ganolog i’r broses dylunio wrth sicrhau egwyddorion dylunio dwyieithog o safon.
Mae'r astudiaeth achos hon yn disgrifio'r hyn y mae Prifysgol Bangor wedi ei wneud er mwyn gallu cynnal cyfarfodydd neu ddigwyddiadau dwyieithog yn hybrid trwy’r defnydd o addasydd ar gyfer platfform fideo Zoom.
Offeryn Data Arolygiaeth Gofal Cymru
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi datblygu a chyhoeddi offeryn data rhyngweithiol lle, o'r cychwyn cyntaf, mae'r Gymraeg wedi'i hystyried yn llawn fel elfen graidd. Mae’r offeryn dwyieithog yn galluogi pobl i chwilio am ddarpariaeth gofal cymdeithasol a gofal plant dwyieithog a chyfrwng Cymraeg ledled Cymru.
Ofcom yn darparu digwyddiadau cyhoeddus ar-lein
Pan oedd ymgynnull wyneb-yn-wyneb heb ei ganiatáu dan fesurau i atal lledaeniad Covid-19, fe ysgogwyd Ofcom i gynllunio digwyddiadau ar-lein.
Fel rhan o’i gynlluniau i foderneiddio, mae darpariaeth ddigidol Cymraeg yn un o flaenoriaethau Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae recriwtio a dal gafael ar staff derbynfa sy'n siarad Cymraeg wedi bod yn her. Mae gwasanaethau derbynfa bellach yn cael eu darparu drwy gontract gyda chwmni allanol, a mae’r sefyllfa wedi gwella.
Gwerth uwchsgilio
Wrth ymateb i ofynion safonau'r Gymraeg, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi newid sut mae'n delio â galwadau ffôn yn ei ganolfan gysylltu.

Cynnig Gwasanaeth Cymraeg yn Rhagweithiol
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn cynnig gofal Cymraeg ar ward gyffredinol yn ysbyty Cwm Rhondda.

Darparu rhith-brofiad gyrfa yn Gymraeg a Saesneg
Gan fanteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf, aeth Gyrfa Cymru ati i greu rhith-brofiad gyrfa i'r cyhoedd yn Gymraeg.