Cymdeithas Adeiladu'r Principality yw’r gymdeithas adeiladu fwyaf yng Nghymru. Maent yn gweithredu ers dros 150 mlynedd ac yn cynnig gwasanaethau Cymraeg i’w cwsmeriaid.
Darllenwch am eu profiad o dderbyn y Cynnig Cymraeg:
Rydym yn falch iawn o gael ein cydnabod gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg am ein hymdrechion. Mae'r defnydd o'r Gymraeg yn eithriadol o bwysig i ni, felly mae cael ein cydnabod yn arbennig iawn i'n busnes. Maen adlewyrchu’r bartneriaeth y mae Principality wedi bod yn ei datblygu ers sawl blwyddyn gyda thîm Comisiynydd y Gymraeg.
Roedd y broses yn un hwylus iawn. Roedden ni yn gweithio yn agos iawn efo’r tîm Hybu i ddarganfod y pethau mwyaf pwysig o’n darpariaeth Cymraeg.
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod gwasanaethau ar gael i'n cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg ac mae'r gydnabyddiaeth hon yn arddangos y gwaith yr ydym wedi'i wneud mewn nifer o feysydd i sicrhau y gallwn ohebu a siarad â chwsmeriaid yn y Gymraeg gan gynnig cyfleusterau dwyieithog lle bynnag y bo modd.