Blog Cynnig Cymraeg Macmillan

Mae Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru’n gwneud beth bynnag sydd ei angen i gefnogi pobl sy’n byw gyda chanser a’u hanwylwyd. Diolch i roddion hael, maent yn darparu cyngor ariannol a chymorth gan gynnwys grantiau, gwybodaeth am ganser, clust i wrando ynghyd ag ariannu a chefnogi gweithwyr proffesiynol Macmillan ar draws Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys nyrsys, cynghorwyr budd-daliadau llesiant a Meddygon Teulu.

Maent yn rhannu eu profiad o dderbyn y Cynnig Cymraeg isod:

Rydyn ni’n darparu taflenni gwybodaeth am ganser drwy gyfrwng y Gymraeg ynghyd   â deunyddiau marchnata iaith Gymraeg. Gellir golygu rhai fel posteri a thaflenni ar gyfer ein gweithwyr proffesiynol Macmillan a chefnogwyr. Maen nhw ar gael ar ein gwefan be.macmillan.org.uk. Mae hyn yn golygu y gall pobl hybu eu gwasanaethau neu ddigwyddiadau fel Bore Coffi Macmillan drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae nifer o’n staff yng Nghymru’n siarad Cymraeg ac mae Macmillan hefyd yn ariannu gwersi Cymraeg i staff sy’n dymuno dysgu’r iaith.

Rydyn ni’n falch ein bod wedi cael y Cynnig Cymraeg gan fod y Gymraeg yn bwysig i ni, y bobl rydyn ni’n eu cefnogi ynghyd â’r bobl sy’n ein cefnogi ni. Mae’r Cynnig Cymraeg a’r offer rydyn ni wedi’u creu i gefnogi ein staff i weithio’n ddwyieithog, yn golygu ein bod yn awr yn darparu cynnig iaith Gymraeg mwy cyson i bobl sy’n byw gyda chanser a’n cefnogwyr.

Mae ein gwaith yn cael ei ariannu bron yn hollol gan gyfraniadau. Y llynedd, dyblwyd yr arian a gawsom gan gynghorau tref a chymuned ar draws Cymru i gefnogi ein gwasanaethau trwy egluro ein gwaith yn ddwyieithog yn eu cymunedau.

Dywedodd Sue Reece, Rheolwr Codi Arian: “Cawsom adborth i ddweud bod y wybodaeth leol yr union beth oedd ei angen a bod y ffaith ei bod ar gael yn y Gymraeg yn wedi arwain  at benderfyniad un cyngor i roi grant i ni

  • I gael cyngor, cefnogaeth neu sgwrs, gall pobl ffonio Macmillan am ddim ar 00808 808 0000.
Block background image

Darganfod mwy am y Cynnig Cymraeg

Cynnig Cymraeg