Blog Cynnig Cymraeg Hill & Roberts

Mae Hill & Roberts yn gyfrifwyr siartredig  sy’n darparu ystod eang o wasanaethau cyfrifeg a threthiant ar gyfer busnesau bach a chanolig.

Staff Hill & Roberts yn sefyll gyda pop up

Darllenwch am eu profiad o dderbyn y Cynnig Cymraeg.

  • Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i chi fel cwmni?

Mae oddeutu saith deg y cant o’n cleientiaid yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. I ni fel busnes, mae’n hynod o bwysig fod ein cleientiaid yn teimlo’n gartrefol, yn cael gwasanaeth personol a'u bod yn deall y cyngor maent yn ei dderbyn. Felly, mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ac yn un o’n blaenoriaethau fel busnes.

  • Beth yw’r budd i chi o dderbyn y Cynnig Cymraeg?

Teimlwn fod derbyn y Cynnig Cymraeg yn cydnabod ein gwaith caled a’n hymroddiad i’r iaith Gymraeg ac yn rhoi hyder i gleientiaid newydd sy’n edrych am gyfrifydd sy’n medru gweithio yn y Gymraeg. Mae gan Comisiynydd y Gymraeg enw da am safonau uchel ac felly rydym yn teimlo’n freintiedig i fod wedi derbyn y Cynnig Cymraeg, ac yn annog unrhyw fusnesau eraill sydd yn gymwys i wneud cais.

Block background image

Darganfod mwy am y Cynnig Cymraeg

Cynnig Cymraeg