Mae Davies & Davies yn gwmni teuluol sydd yn arbenigo mewn gwerthu celfi ers 1958.
Fel cwmni teuluol, a'i wreiddiau yn gadarn yng Ngorllewin Cymru mae Davies & Davies yn hynod falch o allu cynnig gwasanaeth Cymraeg i'w cwsmeriaid.
Darllenwch am eu Cynnig Cymraeg:
- Pa wasanaethau Cymraeg ydych chi’n cynnig?
Mae 9 o'n tîm llawn amser yn gwbl rhugl yn y Gymraeg, gyda'r ddau arall yn ddysgwyr sy'n golygu bod modd i ni ddarparu gwasanaeth Cymraeg bob amser.
- Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i chi?
Mae defnyddio’r Gymraeg yn holl bwysig i ni fel cwmni gan mai Cymraeg yw mamiaith nifer ohonom yn ogystal â nifer fawr o’n cwsmeriaid. Mae’r iaith yn bwysig i’r gymuned leol ac mae cefnogi’r gymuned yma a bod yn rhan ohoni yn bwysig i ni. Yn ogystal, mae ein defnydd o’r iaith yn gwneud i nifer o’n cwsmeriaid deimlo’n fwy cyfforddus wrth ddelio â ni.
- Beth yw’r budd i chi o dderbyn y Cynnig Cymraeg?
Mae derbyn y Cynnig Cymraeg yn fraint ac yn dangos yn swyddogol ein bod yn hapus i ddefnyddio a hyrwyddo’r iaith yn ein gwaith bob dydd. Mae’r Cynnig yn rhoi cyfle i ni hyrwyddo’r cwmni a’n gallu ieithyddol yn gyhoeddus.
Byddwn yn sicr yn annog busnesau eraill i wneud cais. Rydym yn teimlo balchder mawr ein bod ni, fel cwmni bach lleol/ teuluol wedi gallu llwyddo i’w gael. Mae’r broses wedi bod yn un hwylus iawn, gyda chefnogaeth a chymorth bendigedig gan dîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg ac rydym wedi elwa yn fawr o gael gwybod am adnoddau ychwanegol megis ‘Helo Blod’, drwy gysylltu â’r Comisiynydd am y cais.