Safonau Llunio Polisi

Mae dyletswydd ar nifer o gyrff cyhoeddus, o dan y safonau llunio polisi, i ystyried effaith eu penderfyniadau polisi ar y Gymraeg. 

Bwriad hyn yw ceisio sicrhau fod sefydliadau yn ymgorffori gweledigaeth ehangach Mesur y Gymraeg o sicrhau fod y Gymraeg yn rhan o wead bywyd cyhoeddus Cymru, yn eu prosesau penderfynu. Mae’n ffordd o sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei chynnwys fel pwnc prif ffrwd wrth i gyrff cyhoeddus benderfynu sut y byddant yn gweithredu eu swyddogaethau cyhoeddus.

Ar y dudalen hon ceir arweiniad ar sut y dylid mynd ati i roi ystyriaeth gydwybodol i effaith penderfyniadau ar y Gymraeg. Bydd adnoddau cymorth pellach yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon felly cofiwch ail ymweld yn rheolaidd.  

Cwestiynau Cyffredin – Safonau Llunio Polisi: Dogfennau Ymgynghori

Block background image

Rhestr o ffactorau i’w hystyried wrth asesu effaith penderfyniadau polisi ar y Gymraeg

Ffactorau i’w hystyried

Digwyddiadau diweddar

Seminar: Dogfennau Ymgynghori

Dyma ddolenni at recordiad o’n seminar ar ddogfennau ymgynghori oedd yn ystyried penderfyniad pellgyrhaeddol Tribiwnlys y Gymraeg. Bwriad y seminar oedd dadansoddi ac egluro penderfyniad y Tribiwnlys, a chodi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r hyn sy’n rhaid gwneud i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg wrth gyhoeddi dogfennau ymgynghori. Gallwch gael mynediad at y cyflwyniadau isod:

Seminar: Ystyried Effaith

Dyma ddolenni at recordiad o’n seminar ar y safonau llunio polisi oedd yn anelu i godi ymwybyddiaeth sefydliadau o ofynion y safonau hyni a’u heffaith ar ymdrechion i gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg, ac ar greu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd.

Dogfen gyngor

Mae’r ddogfen gyngor yn cynnig syniadau a chyngor ymarferol ynghylch sut i fynd ati i gydymffurfio â’r safonau llunio polisi gan gynnwys astudiaethau achos ac enghreifftiau o fethodoleg a thempledi i’w defnyddio.

Cod ymarfer

Mae adran 5 y cod yn rhoi canllawiau ymarferol am ofynion y safonau llunio polisi. Er mai cod ymarfer ar gyfer sefydliadau sy’n dod o dan Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) yw rhain mae’r cynnwys yn berthnasol i gyrff eraill sy’n ddarostyngedig i’r un ddyletswydd mewn rheoliadau eraill.

Block background image

Cod Ymarfer i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015

(Tudalennau 92 i 98)

Cod Ymarfer