Hawlfraint ac ail ddefnyddio deunyddiau

Mae'r holl destun ar y wefan hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (OGL) v3.0, ac eithrio lle nodir yn wahanol. Os ydych yn ailddefnyddio cynnwys testun o dan y OGL, rhaid i chi gynnwys y priodoliad canlynol: Comisiynydd y Gymraeg, [enw a dyddiad cyhoeddi], wedi'i drwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored.  

Os hoffech ailddefnyddio deunyddiau'r Comisiynydd ond y byddai'r ailddefnyddio arfaethedig yn mynd yn groes i unrhyw un o amodau'r OGL, dylech gysylltu â Thîm Cyfathrebu'r Comisiynydd.  

Cofiwch fod deunyddiau a gafodd eu lawrlwytho o wefan y Comisiynydd yn fersiynau cyfredol. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn defnyddio’r deunyddiau mwyaf cyfredol bob amser.  

Mae'r Comisiynydd yn diweddaru ei ganllawiau a deunyddiau eraill o bryd i'w gilydd. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r fersiynau diweddaraf drwy gyfeirio at wefan y Comisiynydd.  

Nid yw defnydd y Comisiynydd o'r OGL yn effeithio ar hawliau eiddo deallusol Comisiynydd y Gymraeg, gan gynnwys hawlfraint yn ei ddeunyddiau. Mae'r hawliau hyn yn dal i fod yn eiddo i Gomisiynydd y Gymraeg.   

Delweddau   

Nid yw delweddau ar gael i'w hail-ddefnyddio o dan yr OGL oherwydd yn y rhan fwyaf o achosion mae hawlfraint yn cael ei ddal gan drydydd parti. Nid yw'r Comisiynydd yn rhoi unrhyw hawliau i unrhyw un ailddefnyddio delweddau.  

Cysylltwch â post@cyg-wlc.cymru at sylw'r Tîm Cyfathrebu i ofyn am ganiatâd a pha amodau ychwanegol, os o gwbl, a all fod yn berthnasol. Dylai eich cais fod yn ysgrifenedig, gan nodi enw a chyfeiriad yr ymgeisydd, a nodi'r ffynhonnell wybodaeth rydych am ei defnyddio a'r diben i'w ailddefnyddio.  

I gael gwybodaeth am yr hyn a wnawn gyda data personol gweler ein hysbysiad preifatrwydd. 

Defnyddio logos    

Mae defnyddio logo Comisiynydd y Gymraeg a logo iaith gwaith ar unrhyw ddogfen neu ar y cyd ag unrhyw wybodaeth yn dynodi bod y ddogfen neu'r wybodaeth wedi'i pharatoi neu ei chymeradwyo gan y Comisiynydd. Defnyddir y logo ar ddeunyddiau a gynhyrchir gan y Comisiynydd yn unig neu lle mae’r Comisiynydd wedi gweithio ar y cyd â sefydliad. 

Mae defnyddio logo'r Comisiynydd neu logo iaith gwaith heb ganiatâd y Comisiynydd, yn torri'r hawlfraint a gedwir mewn perthynas â'r logo. Ni roddir caniatâd i ddefnyddio'r logo ac ni chaniateir atgynhyrchu'r logo ar unrhyw ffurf oni bai bod y Comisiynydd yn caniatau:  

  •  y deunydd y mae'r logo i'w ddefnyddio arno a  
  • defnydd o'r logo ar ddeunydd o'r fath wedi'i gymeradwyo'n benodol gan y Comisiynydd.