Cynllun Cydraddoldeb

Trosolwg

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn ddarostyngedig i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol sy’n benodol i Gymru a ddaeth i rym yn 2011.  Yn sgil y ddyletswydd hon, mae’n rhaid i’r Comisiynydd ystyried yr angen i:

  • ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erlid ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi ei wahardd gan neu o dan y Ddeddf
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a rhwng pobl nad ydynt yn ei rhannu a
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a rhwng phobl nad ydynt yn ei rhannu.

Mae’n rhaid i’r Comisiynydd osod Amcanion Cydraddoldeb a pharatoi Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae’n rhaid adrodd ar gyflawniad y cynllun yn flynyddol ac adolygu’r amcanion hynny o leiaf unwaith bob pedair blynedd.

Amcanion Cydraddoldeb Strategol

 Mae’r Amcanion Cydraddoldeb Strategol drafft ar gyfer 2024–28 yn adeiladu ar yr amcanion a’r camau sydd eisoes wedi’u cymryd o fewn cynllun 2020–24. Maent wedi’u rhannu i bedwar thema fel a ganlyn, gyda nodau hirdymor, ac mae pob un yn berthnasol i’r holl nodweddion gwarchodedig:

Criw yn mwynhau

Dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn ddarostyngedig i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r dyletswyddau cydraddoldeb sy’n benodol i Gymru a nodir yn Rheoliadau 2011.

Mae data cydraddoldeb sector cyhoeddus y Comisiynydd wedi ei gyhoeddi ar ffurf ffynhonnell agored.

Mae’r Comisiynydd yn adrodd yn flynyddol ar gyflawniad yn erbyn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae’r adroddiad hwn yn rhan o’r adroddiad corfforaethol blynyddol.