Cafodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 7 Rhagfyr 2010 a derbyniodd gydsyniad brenhinol gan Ei Mawrhydi ar 9 Chwefror 2011.
Mae’r Mesur yn:
- datgan bod statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru;
- creu swydd Comisiynydd y Gymraeg.
Sefydlu’r canlynol:
- Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Panel Cynghori ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg,
- Tribiwnlys y Gymraeg
Gwneud darpariaeth ar gyfer y canlynol:
- Hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg a pheidio a thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;
- Safonau’r Gymraeg, gan gynnwys dyletswyddau i gydymffurfio gyda’r Safonau hynny a hawliau sy’n deillio o allu gorfodi’r Safonau hynny;
- Ymchwilio i’r ymyrraeth â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg.