Gwaith rhyngwladol

Logo IALC

Rydym ni’n aml yn derbyn ymholiadau o bob cwr o’r byd am waith y Comisiynydd a sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru, ac rydym wrth ein bodd yn croesawu grwpiau sydd am ymweld â ni i ddysgu rhagor.

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn aelod o Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith (IALC), ac ar hyn o bryd ni sy’n gyfrifol am gadeiryddiaeth ac ysgrifenyddiaeth y gymdeithas. Bydd cynhadledd nesaf IALC yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2024.

Cafodd IALC ei sefydlu yn 2014 â’r bwriad o gefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol ledled y byd a chefnogi comisiynwyr iaith fel eu bod yn gallu gweithio gan gadw at y safonau proffesiynol uchaf. Mae gan y gymdeithas aelodau o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Kosovo, Canada, Iwerddon a Sbaen.

Yn 2019 cyhoeddodd y gymdeithas gyfrol sy’n rhoi sylw i rôl, swyddogaeth a dulliau gweithio comisiynwyr iaith ledled y byd. Bwriad Constitutional Pioneers: Language Commissioners and the Protection of Official, Minority and Indigenous Languages (Éditions Yvon Blais, 2019) yw cyfannu at amcan IALC i addysgu pobl, llywodraethau a llunwyr polisi ar draws y byd am bwysigrwydd strategol comisiynwyr iaith i warchod a hyrwyddo ieithoedd a’u siaradwyr. Mae’n cynnwys cyfraniadau gan academyddion ac ymarferwyr mewn cyfrol dwy ran sy’n cyfuno theori ag arfer.

Cewch ragor o wybodaeth am y gyfrol yma.

Gallwch ddarllen pennod o’r llyfr am waith Comisiynydd y Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yma.