46%

o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg yn mwynhau chwaraeon tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith yr wythnos

53%

o bobl ifanc 11-19 oed eisiau mwy o weithgareddau chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg (arolwg yr Urdd)

60%

o ddisgyblion Cymru yn mwynhau Addysg Gorfforol ‘yn fawr’ (Uwch na disgyblion di-Gymraeg)

Defnyddio'r Gymraeg mewn chwaraeon

Yn ôl ymchwil Chwaraeon Cymru, mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a gwirfoddoli. 

Mae nifer o resymau pam y dylai clybiau chwaraeon ddefnyddio’r Gymraeg wrth hyfforddi. Gallwch anelu at ddenu mwy o aelodau a gwirfoddolwyr, a sicrhau bod yr aelodau presennol sy’n siaradwyr Cymraeg yn cael chwarae teg.

 

 

Buddion defnyddio'r Gymraeg wrth hyfforddi

Dyma'r comedïwr a’r hyfforddwr rygbi Mike Bubbins yn trafod sut mae'n datblygu ei sgiliau Cymraeg wrth hyfforddi Clwb Rygbi Cymry Caerdydd dan 8.

Sut mae modd defnyddio mwy o Gymraeg yn y clwb chwaraeon?

Dyma hyfforddwyr a chwaraewyr tîm rygbi Cymru yn trafod sut maen nhw’n defnyddio'r Gymraeg yn naturiol wrth ymarfer ac ar y cae chwarae.

Mae Alun o glwb pêl-droed Ruthin Rovers yn esbonio sut maen nhw'n cynnal sesiynau hyfforddiant yn ddwyieithog.

Dyma Sioned o Rhedeg Cymru yn trafod sut maen nhw'n gwneud defnydd o'r Gymraeg, a'r manteision sydd ynghlwm. 

Mae Urdd Gobaith Cymru yn cynnal sesiynau hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn trefnu cystadlaethau chwaraeon cenedlaethol. Gallant hefyd gefnogi clybiau, ysgolion, a chyrff llywodraethu chwaraeon i ddatblygu hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma Mabli i esbonio mwy.

Dyma hyfforddwyr criced ym Mhenarth yn sôn am sut aethant ati i hybu'r Gymraeg yn eu clwb.