Polisi gorfodi

Beth yw polisi gorfodi?

Dogfen sy’n rhoi cyngor a gwybodaeth ar y ffordd mae’r Comisiynydd yn mynd ati i wneud gwaith gorfodi ydyw ac mae’n rhaid i Gomisiynydd y Gymraeg gael polisi gorfodi.  

Wrth arolygu cydymffurfiaeth â safonau’r Gymraeg neu yn sgil derbyn cwyn sy’n codi amheuaeth o fethiant i gydymffurfio â safon bydd modd i’r Comisiynydd ymchwilio a gorfodi sefydliad i gydymffurfio â’u dyletswyddau iaith, os canfyddir eu bod yn methu â chydymffurfio. Mewn rhai achosion difrifol, bydd modd gosod cosb sifil ar sefydliad am fethiant i gydymffurfio

Cyflwyniad byr i gynnwys y polisi gorfodi 

Mae’r polisi gorfodi yn rhoi cyngor a gwybodaeth lawn i unrhyw un sydd am wybod sut y bwriada’r Comisiynydd wneud ei waith gorfodi.

Mae’n egluro sut y bydd y Comisiynydd yn trin honiadau o fethiant i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg a pha gamau y bydd fwyaf tebygol o’u cymryd o dan wahanol amgylchiadau. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am yr egwyddorion a’r prosesau y bydd yn eu dilyn wrth iddo wneud ei waith gorfodi.

Mae’r polisi’n ymdrin ag ymchwiliadau. Os amheuir bod sefydliad wedi methu â chydymffurfio ag un neu fwy o safonau a osodwyd arnynt, gall y Comisiynydd gynnal ymchwiliad statudol i’r mater. Wedi cynnal ymchwiliad statudol, bydd y Comisiynydd yn dyfarnu ar sail casgliadau ymchwiliad.

Mae’r polisi’n egluro sut y bydd yn gweithredu os bydd yn canfod methiant neu beidio: 

Os bydd y Comisiynydd o’r farn nad yw sefydliad wedi medru â chydymffurfio â safon, o dan adran 76 y Mesur, gall benderfynu:

  • peidio â gweithredu ymhellach;
  • rhoi cyngor a/neu argymhellion i’r sefydliad neu i unrhyw berson arall.

Gall y Comisiynydd: 

  • ei gwneud yn ofynnol i sefydliad baratoi cynllun gweithredu at y diben o atal  methiant rhag parhau neu rhag digwydd eto;
  • ei gwneud yn ofynnol i sefydliad gymryd camau penodol at y diben o atal methiant rhag parhau neu rhag digwydd eto;
  • roi cyhoeddusrwydd i fethiant sefydliad i gydymffurfio gyda safonau’r Gymraeg;
  • ei gwneud yn ofynnol i sefydliad roi cyhoeddusrwydd i’w fethiant ei hun i gydymffurfio gyda safonau’r Gymraeg; 
  • osod cosb sifil ar y sefydliad hyd at uchafswm o £5000;
  • roi argymhellion i’r sefydliad neu i unrhyw berson arall;
  • roi cyngor i’r sefydliad neu i unrhyw berson arall.
  • geisio ymrwymo mewn cytundeb setlo gyda’r sefydliad.

Mae yna broses statudol ynghlwm â llunio’r polisi gorfodi, ac mae’r polisi hwn wedi derbyn gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru. 

Senedd Cymru

Yn unol ag adran 108, Mesur y Gymraeg, ar 21 Rhagfyr 2020, cydsyniodd Gweinidogion Cymru i ddiwygio cymal 4.9 o Bolisi Gorfodi’r Comisiynydd fel a ganlyn:

4.9. Bydd y Comisiynydd yn cydnabod derbyn pob cwyn ysgrifenedig yn ymwneud ag ymddygiad person perthnasol a dderbynnir o fewn 5 niwrnod gwaith. Hysbysir yr achwynydd  a yw’r gŵyn yn un ddilys  o dan adran 93 a’i peidio mor fuan ag y bo modd wedi hynny.

Effaith y newid hwn yw nad oes rhaid i Gomisiynydd y Gymraeg gadarnhau dilysrwydd cwyn o fewn 5 niwrnod gwaith o dderbyn cwyn.

Block background image

Polisi gorfodi

Darllenwch ein polisi gorfodi

Polisi Gorfodi
Block background image

Cofrestr camau gorfodi

Mae gwybodaeth am achosion i’w gweld yn y cofrestr camau gorfodi.

Cofrestr Camau Gorfodi