Roedd ymgyrch 'Defnyddia dy Gymraeg' yn rhedeg rhwng 27 Tachwedd a 11 Rhagfyr 2023. Roedd yn gyfle i sefydliadau o bob math ar draws Cymru hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg. Mae’r ymgyrch hefyd yn annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.

Defnyddia dy Gymraeg

Nod yr ymgyrch yw annog pawb i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt, ac i fusnesau, elusennau a sefydliadau o bob math hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i’r cyhoedd.

Dylid annog pobl o bob oed o bob cefndir ar draws Cymru i ddefnyddio eu Cymraeg bob dydd - gartref, yn y gwaith, yn y siop, wrth gymdeithasu, dros y ffôn, wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Blwyddyn gyntaf Comisiynydd y Gymraeg

Yn ystod ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg roedd Efa Gruffudd Jones yn sgwrsio gyda Hanna Hopwood, yn edrych yn ôl ar ei chyfnod cyntaf fel Comisiynydd y Gymraeg, ac nodi rhai uchafbwyntiau, a’i gobeithion i'r dyfodol.

Defnyddia dy Gymraeg

Eisiau cymryd rhan yn yr ymgyrch?

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau ar draws Cymru i dynnu sylw at y gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i'r cyhoedd.

Os hoffech gymryd rhan yn yr ymgyrch, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Defnyddia dy Gymraeg

Mae gwaith rheoleiddio sefydliadau cyhoeddus gan y Comisiynydd yn arwain at fwy o wasanaethau ar gael yn y Gymraeg, ac mae angen sicrhau bod siaradwyr y Gymraeg yn hyderus i fedru defnyddio’r iaith.  

Mae’r cydweithio gyda busnesau ac elusennau drwy gynllun y Cynnig Cymraeg, hefyd yn cynyddu’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael ganddyn nhw.

Mae cynyddu gwasanaethau Cymraeg a’u hyrwyddo yn allweddol i sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.

Block background image

Defnyddia dy Gymraeg

Eisiau gwybod mwy am sut gallwch chi ddefnyddio eich Cymraeg gyda sefydliadau cyhoeddus?

Darganfod mwy