Darlledu a’r cyfryngau

Teclyn rheoli teledu

Rhaid sicrhau bod cefnogaeth a chyllid digonol i S4C, BBC Cymru ac eraill i sicrhau y byddant yn darparu arlwy addas yn y Gymraeg i gyd-fynd â newidiadau yn y byd digidol ac i gyfrannu’n llawn at weledigaeth Cymraeg 2050. Mae’n bryder nad oes amrywiaeth arlwy Cymraeg ar gael gan ddarparwyr yn lleol ac yn genedlaethol er mwyn adlewyrchu amrywiaeth o safbwyntiau a phrofiadau pobl Cymru yn y Gymraeg.

Gwelwyd twf sicr ym mhresenoldeb y Gymraeg ar y cyfryngau digidol dros y blynyddoedd diwethaf gan ehangu cyrhaeddiad ac amrywiaeth yr arlwy diwylliannol Cymraeg. Nid yw hynny heb ei heriau i iaith fel y Gymraeg gan fod cynnydd ac amrywiaeth cyfatebol yn arlwy ieithoedd eraill hefyd, gan amlaf yn Saesneg, yn golygu bod dewisiadau ehangach ar gael i siaradwyr Cymraeg.

Mae ein gwaith diweddar yn y maes hwn yn cynnwys: