Pwyllgor Archwilio a Risg

Rydym yn chwilio am aelod newydd i ymuno â Phwyllgor Archwilio a Risg Comisiynydd y Gymraeg i gychwyn ym Mehefin 2024. A oes gennych brofiad yn y maes cyfreithiol ac â diddordeb ym materion llywodraethu yn y Sector Gyhoeddus? Os felly, dyma’r cyfle i chi.

Am fwy o wybodaeth am y cyfle hwn plîs gweler y pecyn recriwtio neu cysylltwch â ni ar swyddi@cyg-wlc.cymru.

I fynegi diddordeb anfonwch gopi o’ch CV a llythyr atom erbyn canol dydd, 30 Ebrill 2024 at swyddi@cyg-wlc.cymru.

Llun o swyddog yn gweithio ar gliniadur

Sut i ymgeisio?

Rydym yn derbyn ceisiadau am swyddi drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Mae’n bwysig bod gan yr unigolion sy'n gweithio i ni lefel uchel o Gymraeg. 

Mae gofyn i bob ymgeisydd lenwi'r ffurflen gais, a'r ffurflen monitro cydraddoldeb os yw hynny'n bosib. 

Dylech anfon eich ffurflen gais wedi’i chwblhau at  swyddi@cyg-wlc.cymru erbyn y dyddiad a nodwyd ar y disgrifiad swydd. 

Os oes gennych gwestiwn neu ymholiad ynglŷn â gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg, cysylltwch â ni.

Merched yn cerdded i lawr y grisiau

Pam ddylech weithio yma?

Ein hamcan yw bod yn weithle cyfeillgar a chynhwysol, ac mae meithrin ymdeimlad agos o gymuned yn flaenoriaeth i ni. Credwn mewn creu amgylchedd gwaith sy’n galluogi aelodau staff ar draws y sefydliad i ddatblygu eu sgiliau, ac i gyrraedd eu llawn botensial.

Block background image

Ffurflen gais

Cwblhewch yma
Block background image

Ffurflen monitro cydraddoldeb

Cwblhewch yma