Gall unigolyn gysylltu â’r Comisiynydd i fynegi pryder neu i gyflwyno cwyn am ei weithredoedd.
Cyn mynegi pryder neu gyflwyno cwyn, gallwch ddarllen Gweithdrefn Gwyno’r Comisiynydd, sydd ar gael yma.
Cliciwch yma i ddarllen fersiwn ‘Hawdd ei ddeall’ o’r weithdrefn cwyno.
Gallwch fynegi pryder neu gwyn:
- Dros y ffôn
- Siarad ag aelod o staff Comisiynydd y Gymraeg gan nodi bod angen iddynt ddelio â’r mater fel cwyn ffurfiol
- Anfon e-bost
- Ysgrifennu llythyr
- Drwy lenwi'r ffurflen gwyno isod
Mae'r weithdrefn hon wedi ei pharatoi yn unol ag Adran 14 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Gweithredoedd neu anweithiau’n ymwneud ag arfer swyddogaethau Comisiynydd y Gymraeg yn unol ag Adran 14 y Mesur.
Caiff y wybodaeth a roddir gennych ei phrosesu gan Gomisiynydd y Gymraeg a fydd yn ei phrosesu yn unol â gofynion GDPR y DU a’r Ddeddf Diogelu Data. Mae rhagor o wybodaeth ar sut y caiff data personol ei brosesu ar gael yn Hysbysiad Preifatrwydd Comisiynydd y Gymraeg.