Mae’r cynllun Iaith Gwaith a'r bathodyn swigen oren yn dangos eich bod yn siarad Cymraeg.

Mae’r bathodyn Iaith Gwaith wedi hen ennill ei blwyf – mae i’w weld ymhobman ac yn gyfle i bobl ddangos eu bod yn siarad Cymraeg a bod croeso i eraill siarad Cymraeg â nhw, boed hynny yn y siop, yn yr ysbyty neu yn y ganolfan hamdden.

Ers ei lansio yn 2005, mae’r swigen wedi ei defnyddio mewn amryw o ffyrdd.

Deunyddiau electronig

A wyddech chi fod na ddeunyddiau electronig ar gael allai fod yn fwy addas ar eich cyfer?

Mae croeso i unrhyw un lawrlwytho’r adnoddau yma yn rhad ac am ddim:

Trwyddedau

Rydym hefyd yn cynnig trwyddedau i sefydliadau allu cynhyrchu nwyddau eu hunain a defnyddio’r brand ar ddeunydd sydd eisoes ar gael i staff.

Enghreifftiau o’r rhain yw,

  • brodio’r bathodyn ‘Cymraeg’ ar wisg
  • cynhyrchu sticeri ar gyfer digwyddiadau a chynadleddau
  • cynhyrchu arwydd siop/busnes neu arwydd ar gerbydau gyda’r swigen
  • gosod y bathodyn ar gerdyn adnabod staff sy’n siarad Cymraeg.

Mae’r dulliau hyn wedi tyfu’n boblogaidd ac yn ddewis arall os nad oes modd defnyddio’r cortyn gwddf neu fathodyn.  Cysylltwch gyda ni i drafod.

Cleachdi!

Mae hefyd wedi ysbrydoli’r Alban i fabwysiadu cynllun tebyg.

Yn Hydref 2019 fe wnaeth Bòrd na Gàidhlig (Bwrdd yr Iaith Aeleg) lansio swigen las i annog siaradwyr Gaeleg i roi gwybod i bobl eu bod yn gallu siarad yr iaith.

Bathodyn a chortyn gwddf iaith gwaith

Archebu?

Os hoffech archebu bathodynnau Iaith Gwaith ar gyfer staff sy’n medru siarad Cymraeg yn eich busnes, sefydliad neu gwmni, gallwch eu harchebu am ddim drwy lenwi'r ffurflen archeb.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi’r ffurflen, yn darparu'r holl wybodaeth sydd ei angen, ac yn caniatáu rhwng 14 a 21 diwrnod gwaith i dderbyn y nwyddau. 

Logo Dysgu Cymraeg

Ydych chi'n dysgu Cymraeg, neu yn gwybod am rywun sy'n dysgu? Gallwch archebu nwyddau penodol ar gyfer dysgwyr gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Logo dysgu cymraeg

Block background image

Poster iaith gwaith

Lawrlwythwch boster iaith gwaith ar gyfer eich gweithle.

Poster Iaith Gwaith
Block background image

Logo iaith gwaith

Lawrlwythwch logo iaith gwaith.

Logo Cymraeg