Yr economi

Rhywun yn defnyddio ffon

Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn nodi pwysigrwydd datblygu economaidd ar gyfer hyfywedd y Gymraeg. Er y gydnabyddiaeth i bwysigrwydd y cyswllt rhwng yr iaith a’r economi, prin yw’r sail dystiolaeth sy’n cefnogi’r cysylltiad hwn ac mae tuedd i iaith a’r economi gael eu trafod mewn termau cymharol gyffredinol.  

Credwn fod angen i wneuthurwyr polisi gynefino gyda’r ymchwil sydd ar gael yn y maes a thalu sylw i adroddiadau ar berthynas economi ac iaith, a sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i unrhyw strategaethau neu gynlluniau datblygu economaidd. Golyga hyn ystyried sut gall y Gymraeg elwa’r economi, a sut gall datblygiadau economaidd gryfhau sefyllfa’r iaith ar draws Cymru. 

 

Dynas yn gwneud coffi mewn caffi

COVID-19

Rydym yn bryderus am effeithiau COVID-19 ar y Gymraeg. Yn y tymor byr mae wedi tarfu ar gyfleoedd cymdeithasol i ddefnyddio’r Gymraeg ac wedi effeithio’n negyddol ar nifer o fudiadau cenedlaethol a lleol sy’n gweithio er ei budd. Rydym yn awyddus i ddeall yn well sut y bydd y newidiadau cymdeithasol ac economaidd a ddaw yn sgil y pandemig yn effeithio ar y Gymraeg o safbwynt cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith.  

Mae ein gwaith allweddol diweddar yn y maes hwn yn cynnwys:  

  • Argymhellion ar gyfer ystyried y Gymraeg yn y strategaeth ailgodi economaidd yn dilyn COVID-19 ac mewn ymateb i adael yr Undeb Ewropeaidd.
  • Galw ar Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r 5ed Senedd i gynnal ymchwiliad ar effaith yr achosion o COVID-19 ar yr iaith Gymraeg a chyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw
  • Ymateb i ymgynghoriadau nifer o Bwyllgorau’r 5ed Senedd ar effaith yr achosion o COVID-19 ar faterion o fewn cwmpas eu meysydd gwaith. 
  • Cyfrannu at drafodaethau ynghylch gweledigaeth Llywodraeth Cymru y bydd 30% o weithlu Cymru yn gweithio o bell yn rheolaidd. 

 

Rhaid i wneuthurwyr polisi ddeall yn well y cysylltiad rhwng y Gymraeg a'r economi.

Mae angen i'r Gymraeg fod yn ystyriaeth ganolog mewn strategaethau a chynlluniau datblygu economaidd.

Rydym yn awyddus i ddeall sut y bydd y newidiadau cymdeithasol ac economaidd a ddaw yn sgil COVID-19 yn effeithio ar y Gymraeg .