Rhestr o ffactorau i’w hystyried wrth asesu effaith penderfyniadau polisi ar y Gymraeg

Mae’r safonau llunio polisi yn gofyn i sefydliadau ystyried effaith ei benderfyniadau polisi ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Wrth wneud hynny, mae’n rhaid i sefydliadau wneud ‘ymdrech gydwybodol’ [1]i ystyried yr effeithiau. Mae’r trothwy ar gyfer ‘ymdrech gydwybodol’ yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Mae’n debygol y bydd y gofynion yn uwch mewn ardal sensitif neu arwyddocaol o ran y Gymraeg, ac wrth i nifer a maint yr effaith gynyddu.

Mae’n rhaid i sefydliadau gadw cofnod o’r ystyriaeth maent yn eu rhoi. Nid oes rhaid rhestru pob un effaith posib, ond bydd ystyried ystod eang o effeithiau yn ei wneud yn fwy tebygol y bydd ‘ymdrech gydwybodol’ wedi ei wneud.   

Dyma rai enghreifftiau o’r materion a’r effeithiau y gall sefydliadau eu hystyried wrth wneud eu penderfyniadau. Nid yw’n restr gynhwysfawr, ac maent yn ffactorau y gellir eu hystyried dim ond i’r graddau y maent yn berthnasol i’r penderfyniad dan sylw. Bydd y ffactorau perthnasol yn amrywio fesul achos.

  • Nifer y siaradwyr Cymraeg
    • yn gyffredinol
    • mewn un ardal ddaearyddol
    • mewn carfan benodol (e.e. plant, pobl ifanc, oedolion)
    • mewn sector neu grŵp penodol (e.e. aelodau o glybiau neu gymdeithasau)
  • Trosglwyddiant y Gymraeg
    • yn y cartref rhwng rhiant/gofalwr a phlentyn
    • mewn addysg wrth i ddisgybl symud o un cyfnod addysg i un arall (e.e. wrth symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd)
  • Y Gymraeg yn y gweithle
    • cyfleoedd anffurfiol a chymdeithasol
    • cyfathrebu mewnol
    • strwythur timoedd / adrannau
    • technoleg ac adnoddau (e.e. meddalwedd prawf ddarllen, rhyngwyneb dyfeisiadau)
    • ymwybyddiaeth iaith ymysg staff
  • Y defnydd a wneir o wasanaethau Cymraeg
    • y gallu i roi gwasanaeth Cymraeg yn ddiofyn
    • y gallu i wneud cynnig rhagweithiol i ddefnyddio’r Gymraeg
    • rhoi gwybod am wasanaethau Cymraeg
    • amgylchedd rhoi gwasanaeth
    • gofynion Safonau’r Gymraeg
  • Defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg
    • ymysg plant, pobl ifanc ac oedolion
    • yn y gweithle
    • tu allan i’r gwaith
    • digwyddiadau a gweithgareddau a drefnwyd (e.e. digwyddiad cymunedol, dosbarth hamdden, cyfarfod crefyddol)
    • cyfryngau digidol
  • Pa mor weladwy yw’r Gymraeg
    • enwau lleoedd (e.e. trefi, pentrefi, strydoedd, datblygiadau tai newydd)
    • arwyddion gwybodaeth mewnol ac allanol sefydliad
    • arwyddion busnesau a sefydliadau preifat
    • deunydd sy’n cael ei arddangos yn gyhoeddus

Is-adeiledd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol cymunedau Cymraeg

  • Strategaethau a pholisïau ar faterion megis y canlynol:
    • addysg (e.e. Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg)
    • cynllunio gwlad a thref (e.e. Cynllun Datblygu Lleol)
    • defnydd tir
    • datblygu a chynaliadwyedd cymunedol
    • datblygu economaidd
    • strategaethau Llywodraeth Cymru (e.e. Cymraeg 2050 – Miliwn o siaradwyr Cymraeg)
    • deddfau a chyfreithiau eraill (e.e. Cod Trefniadaeth Ysgolion, TAN 20)
  • Cyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg
    • gofal plant
    • addysg statudol
    • addysg cyn ac ôl statudol
    • gwersi Cymraeg i oedolion
    • mynediad at feddalwedd / cyrsiau ar-lein
  • Defnydd a wneir o’r Gymraeg yn y maes digidol a thechnolegol
    • cyfryngau cymdeithasol
    • lleisiau synthetig
    • meddalwedd trawsgrifio ac is-deitlo
    • deallusrwydd artiffisial
  • Cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
    • addysg feithrin
    • addysg statudol
    • addysg bellach ac uwch
    • dysgu’n seiliedig ar waith
    • cludiant i leoliadau addysg
    • hwylustod mynediad at addysg Gymraeg
  • Cynllunio ieithyddol
    • cynaliadwyedd mewn ardaloedd lle ceir dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg
    • hyrwyddo caffael a defnydd iaith
    • ffyniant y Gymraeg fel iaith teulu, cymuned neu’r gweithle
    • tegwch cymdeithasol
  • Ymdrechion i warchod a hyrwyddo’r Gymraeg
    • gweithgareddau Mentrau Iaith
    • gweithgareddau mentrau cymunedol
    • ymgyrchoedd hybu a hyrwyddo
    • gofynion ieithyddol statudol
    • grantiau

[1] Penderfyniad Tribiwnlys y Gymraeg yn achos Cyngor Castell-nedd Port Talbot v Comisiynydd y Gymraeg