Dogfen ymgynghori awdurdod lleol ar gynyddu nifer y lleoedd i ddisgyblion mewn dwy ysgol gynradd cyfrwng Saesneg

Cwyn

Cyflwynodd aelod o’r cyhoedd gŵyn am nad oedd dogfennau ymgynghori oedd yn cynnig cynyddu nifer y lleoedd i ddisgyblion mewn dwy ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yn ystyried effaith y cynnig ar y Gymraeg, nac yn ystyried yr effaith ar yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg agosaf.

Roedd y gŵyn yn creu amheuaeth o dorri Safonau’r Gymraeg ar ymgynghori (safonau 91 i 93) ac felly agorodd y Comisiynydd ymchwiliad i’r mater.

Cyd-destun

Mae Safonau’r Gymraeg (safonau 91 i 93) wedi eu gosod ar bob awdurdod lleol, ac maent yn berthnasol i ddogfennau ymgynghori sy’n cael eu cyhoeddi.

Os yw awdurdod lleol yn cyhoeddi dogfen ymgynghori, mae’n rhaid i’r ddogfen ystyried effaith y penderfyniad ar y Gymraeg. Mae’n rhaid i’r ddogfen hefyd geisio barn y rhai sy’n ymateb i’r ddogfen am yr effaith ar y Gymraeg.

Os yw’r penderfyniad yn debygol o gael effaith bositif neu negyddol ar y Gymraeg, rhaid i’r ddogfen ystyried ac yna geisio barn ar sut y gellir gwneud y penderfyniad fel y byddai’n cael effaith mwy positif, neu sut y gellir gwneud y penderfyniad fel y byddai’n cael effaith llai negyddol.

Mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion hefyd yn gosod gofynion ar awdurdodau lleol mewn perthynas â’r Gymraeg wrth iddynt ymgynghori ar gynigion i ad-drefnu ysgolion.

Mae gofynion y Cod yn ychwanegol ac yn wahanol i ofynion y Safonau. Nid yw cydymffurfio â gofynion y Cod fel arfer yn ddigonol i gydymffurfio â gofynion Safonau’r Gymraeg.

Canfyddiadau’r ymchwiliad

Mae’n rhaid i ddogfennau ymgynghori ar ad-drefnu ysgolion, cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg, ystyried effaith y cynnig ar y Gymraeg, a cheisio barn y rhai sy’n ymateb ar yr effaith hynny.

Yn yr achos yma, fe wnaeth yr awdurdod lleol gydnabod yn syth nad oedd y ddogfen ymgynghori wedi gwneud hynny o gwbl, a’i fod felly wedi methu cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.

Penderfynodd yr awdurdod lleol ail ymgynghori ar y cynnig, gan sicrhau fod y dogfennau’n cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg. Penderfynodd yr awdurdod lleol hefyd i ddiwygio ei brosesau o baratoi dogfennau ymgynghori er mwyn sicrhau y byddai’n cydymffurfio yn y dyfodol.

Beth sydd rhaid gwneud i gydymffurfio?

Dylai dogfennau ymgynghori ar ad-drefnu ysgolion wneud y canlynol:

  • Ystyried effaith y penderfyniad ar y Gymraeg, hyd yn oed os yw’r penderfyniad yn ymwneud ag ad-drefnu ysgolion cyfrwng Saesneg
  • Ystyried effaith y penderfyniad ar addysg cyfrwng Cymraeg
  • Ystyried effaith y penderfyniad ar y Gymraeg mewn cyd-destunau eraill (e.e. defnydd cymunedol, is-adeiledd cymdeithasol, defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ayb)
  • Cynnwys adran benodol ar yr effeithiau ar y Gymraeg a/neu gynnwys asesiad effaith iaith
  • Cynnwys cwestiynau penodol am farn yr atebydd ar effeithiau posib y penderfyniad ar y Gymraeg
  • Cynnwys cwestiynau penodol am farn yr atebydd ar sut i wneud neu addasu’r penderfyniad fel ei fod yn cael effaith mwy positif ar y Gymraeg
  • Cynnwys cwestiynau penodol am farn yr atebydd ar sut i wneud neu addasu’r penderfyniad fel ei fod yn cael effaith llai negyddol ar y Gymraeg

Gwybodaeth bellach

Mae’r mater hwn yn berthnasol i safonau 91 i 93 o Reoliadau Safonau’r Gymraeg - Rhif 1. Darllenwch ein Cod Ymarfer a’n dogfen gyngor ar y safonau llunio polisi er mwyn dysgu mwy.