Graffeg gliniadur a ffon

Yn gynharach yn y flwyddyn gwnaeth Comisiynydd y Gymraeg gyhoeddi y byddai dull mwy rhagweithiol o ‘gyd-reoleiddio’ yn cael ei fabwysiadu, a gallwch ddarllen mwy am hynny yn y blog hwn. 

Er mwyn cefnogi’r gwaith hynny mae rhaglen hybu cydymffurfiaeth bellach wedi ei rhoi ar waith fel yr eglura Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn, 

“Wrth i ni gyhoeddi ein dull cyd-reoleiddio yn gynharach eleni fe wnaethon ni ymgysylltu’n eang ac mae’r rhaglen rydym wedi ei datblygu yn ymateb yn uniongyrchol i’r sylwadau a godwyd yn yr ymatebion hynny. 

“O ganlyniad mae’r rhaglen hon yn gyfuniad o sesiynau sydd wedi eu targedu ar gyfer pob sefydliad sydd yn ddarostyngedig i ddyletswyddau iaith Gymraeg, yn ogystal â rhai sydd yn cynnig ffocws penodol ar gyfer sefydliadau neu sectorau perthnasol.   

“Y digwyddiadau cyntaf yn y calendr yw ein sesiynau “Dewch i Drafod”, fydd yn cael eu cynnal mewn dau leoliad ddiwedd Mai. Bydd rhain yn cynnig cyfle i gwrdd â'n swyddogion ac i gynnal trafodaethau anffurfiol gyda ni am y gwaith sydd yn cael ei wneud i gynyddu'r cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg.  

“Ein gobaith yw y bydd trafodaethau agored fel hyn yn gymorth i ninnau gael gwell dealltwriaeth o’r heriau a’r cyfleoedd sydd yn wynebu sefydliadau wrth ddatblygu a chyflwyno gwasanaethau Cymraeg. Gallwn wedyn gyd-weithio er mwyn ystyried atebion, manteisio ar gyfleoedd a hybu syniadau newydd.    

“Mae’r rhaglen lawn i’w gweld yma  lle mae dyddiadau a lleoliadau y sesiynau fydd yn cael eu cynnal yn hanner cyntaf y flwyddyn eisoes wedi eu nodi. Bydd mwy o fanylion am sesiynau yn ail hanner y flwyddyn yn cael eu hychwanegu i’r wefan wrth iddynt gael eu cadarnhau. 

“Edrychaf ymlaen am sgyrsiau cadarnhaol ac adeiladol.”  

Os am glywed mwy am y broses o gyd-reoleiddio gwrandewch ar y podlediad hwn lle mae Hanna Hopwood yn holi Osian Llywelyn am y cynlluniau.