Cais i Gomisiynydd y Gymraeg am gymorth cyfreithiol

Mae gan y Comisiynydd hawl i gychwyn neu ymyrryd mewn achosion cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Mae hefyd yn gallu darparu cymorth cyfreithiol i unigolyn. 

Mae'r Comisiynydd wedi llunio fframwaith yn esbonio pryd y bydd yn barod i gychwyn achos neu ymyrryd mewn achos cyfreithiol.

Bydd y Comisiynydd yn defnyddio’r pŵer hwn os bydd o’r farn bod mater yn un strategol bwysig i hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg; lle nad oes dewis arall o gyrraedd yr un nod ac os yw’r  achos yn un o fudd cyhoeddus amlwg.

Mae’r fframwaith hefyd yn egluro sut fydd y Comisiynydd yn defnyddio’i bwerau.

Os ydych am i’r Comisiynydd ymyrryd neu roi cymorth cyfreithiol i chi, cwblhewch y ffurflen isod gan gynnwys cymaint o wybodaeth berthnasol â phosib.

Gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen, ai hafon at post@cyg-wlc.cymru.

Mae pob cais yn cael ei drin yn gyfrinachol.

Cyn cymryd unrhyw gamau ffurfiol neu wneud penderfyniad terfynol mewn perthynas ag achos mae’n bosib y bydd y Comisiynydd yn ceisio cyngor priodol ac yn rhoi sylw i’r cyngor hwnnw. Mae’n bosib felly y bydd angen rhannu manylion yr achos hwn â thrydydd parti.

Mae Hysbysiad Preifatrwydd y Comisiynydd yn rhoi gwybodaeth am beth i’w ddisgwyl pan fydd yn casglu, defnyddio, datgelu, trosglwyddo a chadw eich data personol. Mae copi o’r hysbysiad preifatrwydd i’w weld yma.




Dywedwch wrthym beth yw’r mater yr hoffech dderbyn cymorth amdano.
Dywedwch wrthym pwy yw’r sefydliadau partïon unigolion y mae’r achos yn ymwneud â hwy,. Os yn briodol, darparwch eu manylion cyswllt.
Eglurwch beth oedd / yw effaith yr achos hwn ar y Gymraeg neu ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg?
Os oes gennych unrhyw dystiolaeth yr hoffech i’r Comisiynydd ei ystyried fel rhan o’r cais, darparwch nhw isod.
Nodwch pob dyddiad arwyddocaol sy’n ymwneud â’r achos (i gynnwys dyddiad y daeth y mater i’ch sylw a dyddiad unrhyw wrandawiadau sydd wedi bod, neu fydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol).
Eglurwch pa fath o gyngor neu gymorth y dymunwch ei dderbyn gan y Comisiynydd neu sut y credwch y gall y Comisiynydd fod o gymorth i chi yn yr achos hwn.
Oes unrhyw bartïon eraill yn delio â’r achos hwn ar hyn o bryd? Nodwch os ydych yn fodlon i’r Comisiynydd gysylltu â’r partïon hyn (os oes angen) a darparwch unrhyw fanylion cyswllt.