Cyrsiau hyfforddi staff ar ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a gofynion safonau’r Gymraeg

Cwyn

Roedd nifer o gwynion a gyflwynwyd gan y cyhoedd, ynghyd â thystiolaeth gasglwyd gan staff y Comisiynydd wrth gynnal arolygon, yn awgrymu nad oedd gan gyfran sylweddol o staff y byrddau iechyd ddealltwriaeth dda o ofynion safonau’r Gymraeg, a bod ymagwedd negyddol gan rai ohonynt tuag at ddarparu gwasanaethau Cymraeg. 

Cododd hyn bryderon y gallai sawl bwrdd iechyd fod yn torri Safonau’r Gymraeg sy’n ymwneud â hyfforddi staff (safonau 102 a 103). O ganlyniad, agorodd y Comisiynydd sawl ymchwiliad i’r materion hyn.

Cyd-destun

Mae safonau 102 a 103 wedi eu gosod ar bob bwrdd iechyd.

Mae’n rhaid iddyn nhw ddarparu cyrsiau hyfforddi i’w staff er mwyn datblygu eu hymwybyddiaeth o’r Gymraeg, gan gynnwys ymwybyddiaeth o hanes yr iaith a’i lle yn niwylliant Cymru. Gall hyn gynnwys rhoi gwybodaeth am darddiad y Gymraeg, ffeithiau am y Gymraeg a manteision defnyddio’r Gymraeg.

Er mwyn datblygu dealltwriaeth o’r ddyletswydd i gynnig gwasanaethau yn unol â safonau’r Gymraeg, mae disgwyl i’r byrddau roi gwybod i’w staff am yr union safonau y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw, a gwybodaeth am Fesur y Gymraeg a’i amcanion.

Wrth ddatblygu dealltwriaeth am sut mae defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, mae disgwyl i staff dderbyn gwybodaeth am sut mae’r sefydliad yn hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, a gwybodaeth am yr hawliau sydd gan staff o dan y safonau gweithredu.

Yn ogystal, mae’n rhaid rhoi gwybodaeth i staff newydd (er enghraifft fel rhan o broses ymsefydlu), er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o’r Gymraeg. Gall hynny ddigwydd drwy hyfforddiant neu ar ffurf dogfen.

Canfyddiadau’r ymchwiliad

Daeth yn glir o’r ymchwiliadau fod rhai sefydliadau yn meddwl fod y gofynion i ddarparu hyfforddiant yn berthnasol i ‘staff newydd’ yn unig (sef y rhai sydd wedi eu cyflogi ers i’r safon ddod yn weithredol). Mae hynny’n golygu mai dim ond aelodau staff newydd oedd yn derbyn yr hyfforddiant, ac nad oedd staff oedd wedi eu cyflogi cyn i’r safon ddod yn weithredol wedi ei dderbyn.

Mae’r ymchwiliadau wedi cadarnhau fod y safon yn ei wneud yn ofynnol, ac nid yn ddewisol, i’r byrddau iechyd hyfforddi pob aelod staff, ac nid dim ond cyfran ohonynt.

Roedd rhai sefydliadau wedi bod yn dehongli’r safon i olygu bod disgresiwn gan y sefydliad i gynnig yr hyfforddiant, a disgresiwn hefyd gan staff i benderfynu a oeddynt am fynychu’r hyfforddiant neu beidio. Nid yw hyn yn ddehongliad cywir o’r gofynion, ac mae’n fethiant i gydymffurfio â safon 102.  

Wrth ystyried Safon 103, cadarnhaodd yr ymchwiliad mai dim ond i ‘staff newydd’ y mae’n rhaid rhoi gwybodaeth er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o’r Gymraeg. Ond, dangosodd yr ymchwiliad mai dim ond cyfran o ‘staff newydd’ oedd yn derbyn gwybodaeth, ac nid pob un. Roedd hyn hefyd yn fethiant i gydymffurfio â’r safon.

Beth sydd rhaid gwneud i gydymffurfio?

  • Rhoi cwrs hyfforddi i bob aelod staff, ac nid cyfran ohonynt yn unig, yn y meysydd canlynol:
    • ymwybyddiaeth o’r Gymraeg
    • y ddyletswydd i weithredu’n unol â safonau’r Gymraeg
    • sut y gellir defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle
  • Sicrhau fod dealltwriaeth ymysg staff a rheolwyr fod mynychu hyfforddiant a ddarperir yn ofynnol ac nid yn ddewisol.
  • Rhoi gwybodaeth i bob aelod staff newydd, ac nid cyfran ohonynt yn unig, er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o’r Gymraeg

Gwybodaeth bellach

Mae’r mater hwn yn berthnasol i safonau 102 a 103 o Reoliadau Safonau’r Gymraeg - Rhif 7.