Asesu’r angen am sgiliau Cymraeg mewn swyddi newydd a swyddi ddaw’n wag

Cwyn

Cyflwynodd aelod o’r cyhoedd gŵyn nad oedd sefydliad cenedlaethol Cymreig wedi cynnal asesiad trylwyr o’r angen am sgiliau iaith Gymraeg cyn hysbysebu a phenodi i swydd cyfarwyddwr. Roedd deilydd blaenorol y swydd yn siaradwr Cymraeg rhugl gyda chyfrifoldeb strategol am y Gymraeg. Roedd yr achwynydd o’r farn y dylai’r gael ei hysbysebu gyda’r Gymraeg yn sgil hanfodol

Cyd-destun

Pan mae swydd newydd yn cael ei chreu neu pan ddaw swydd yn wag, mae Safonau’r Gymraeg yn creu dyletswydd ar y sefydliad i asesu’r angen am sgiliau yn y Gymraeg a’i chategoreiddio fel swydd ble mae’r Gymraeg yn un ai hanfodol, dymunol, angen dysgu’r iaith, neu ddim yn angenrheidiol. Rhaid hefyd cadw cofnod o’r asesiad.

Canfyddiadau’r ymchwiliad

Fe wnaeth yr ymchwiliad ddarganfod fod y sefydliad wedi cynnal asesiad o ofynion ieithyddol y swydd cyn ei hysbysebu, gan gasglu fod y Gymraeg yn sgil hanfodol ar gyfer rhai elfennau o’r swydd.  

Er hynny, penderfynodd y sefydliad gategoreiddio’r swydd fel un ble roedd y Gymraeg yn ‘ddymunol iawn’. Dadl y sefydliad oedd y byddai categoreiddio’r swydd fel un Cymraeg ‘hanfodol’ yn cyfyngu’n ormodol ar nifer yr ymgeiswyr posib.  

Casglodd yr ymchwiliad fod y sefydliad wedi torri Safonau’r Gymraeg ar y seiliau canlynol

  • Mae’r safonau’n caniatáu sefydliad i osod swydd mewn un o bedwar categori, fel y disgrifir uchod. Nid yw ‘dymunol iawn’ yn un o’r categorïau hynny ac felly torrodd y sefydliad Safonau’r Gymraeg drwy greu categori newydd at ei ddibenion ei hun.
  • Roedd asesiad o ofynion ieithyddol y swydd wedi casglu fod y Gymraeg yn sgil hanfodol ar gyfer ei chyflawni’n llwyddiannus. Er hynny, penderfynodd y sefydliad beidio categoreiddio’r swydd fel un Cymraeg ‘hanfodol’ wrth ei hysbysebu. Wrth wneud hynny, diystyriwyd yr asesiad gan ei wneud yn ddiwerth. Nid yw cynnal asesiad yn unig yn ddigonol i sicrhau cydymffurfiaeth â’r safon. Mae categoreiddio swydd yn groes i ganfyddiad yr asesiad gyfystyr â pheidio a chynnal yr asesiad o gwbl, a thrwy hynny felly, torrodd y sefydliad ofynion Safonau’r Gymraeg.    

Beth sy’n rhaid gwneud i gydymffurfio?

Dylai sefydliadau baratoi canllawiau a rhoi arweiniad i staff er mwyn: 

  • egluro union ofyniad y safonau ynghylch recriwtio ac apwyntio.
  • rhoi arweiniad ar y ffactorau ddylid eu hystyried a’r categorïau cyfatebol.
  • osod allan y camau i’w cymryd i sicrhau bod yr asesiad a gynhelir yn wrthrychol, ystyrlon a manwl.
  • sicrhau bod y sawl sydd yn cynnal yr asesiad yn ystyried yr holl gategorïau a restrir yn y safonau. 
  • sicrhau bod yr asesiad a gynhelir yn canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl yn unol â’r swydd ddisgrifiad.
  • bwysleisio’r angen i lynu wrth ganfyddiad yr asesiad wrth bennu’r categori ar gyfer y gofyniad ieithyddol.  
  • sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin fel pob sgil arall sydd wedi ei bennu yn ofynnol ar gyfer cyflawni’r rôl.

Gwybodaeth bellach

Mae’r mater hwn yn berthnasol i safon 132 a 147 o Reoliadau Safonau’r Gymraeg - Rhif 2.

Ceir arweiniad pellach ar recriwtio yn ein dogfen gyngor arferion da.