Doctor tu ôl desg mewn meddygfa

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi Cod Ymarfer sy'n cynnig canllawiau ymarferol am ofynion y safonau a osodir ar y sector iechyd. 

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, 

“Yn dilyn derbyn cydsyniad Llywodraeth Cymru, rwy’n falch o allu cyhoeddi ein hail God Ymarfer sydd yn nodi canllawiau penodol i’r cyrff hynny sydd wedi eu hadnabod yn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018. Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG yw’r rheiny yn bennaf a’r bwriad gyda’r cod hwn yw cynnig mwy o eglurder ynghylch gofynion pob un o’r safonau yn y rheoliadau. 

“Wrth baratoi’r cod rydym wedi, ymysg pethau eraill, adnabod enghreifftiau o sut i weithredu’r safonau a fydd gobeithio yn cynnig canllawiau ymarferol i’r cyrff perthnasol ac, o ganlyniad, yn gymorth iddynt.  

“Rwy’n hyderus y bydd yn adnodd ymarferol a defnyddiol iddynt i’r dyfodol.” 

Gallwch ddarllen y Cod Ymarfer yma