Deilliannau Rheoleiddio

Graffeg papur a sgrin

Yn gynharach yn y flwyddyn gwnaeth Comisiynydd y Gymraeg gyhoeddi y byddai dull mwy rhagweithiol o ‘gyd-reoleiddio’ yn cael ei fabwysiadu.

Er mwyn sicrhau bod y gwaith o reoleiddio cydymffurfiaeth â safonau’r Gymraeg yn cael ei osod yng nghyd-destun y weledigaeth genedlaethol o gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg a chynyddu defnydd yr iaith, rydym wedi datblygu a gosod y deilliannau rheoleiddio canlynol.

Deilliant 1: Sefydliadau â’r capasiti i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel ar bob achlysur. 

Deilliant 2: Defnyddwyr y Gymraeg yn deall ac yn ymwybodol o’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael iddynt. 

Deilliant 3: Sefydliadau’n rhoi sylw dyladwy i effeithiau posibl eu penderfyniadau polisi ar y Gymraeg. 

Deilliant 4: Sefydliadau’n cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn eu gweithle, gan alluogi staff i weithio yn Gymraeg o ddydd i ddydd. 

Deilliant 5: Sefydliadau’n hyrwyddo’r Gymraeg fel y gall pobl ddefnyddio’r iaith yn naturiol yn eu bywydau bob dydd.  

Deilliant 6: Sefydliadau â threfniadau llywodraethu a chwynion effeithiol sy’n sicrhau bod buddiannau defnyddwyr y Gymraeg yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo. 

Ein bwriad wrth gyflwyno’r deilliannau hyn yw iddynt, ymysg pethau eraill:

  • osod safonau’r Gymraeg a’n gwaith rheoleiddio yng nghyd-destun y weledigaeth genedlaethol o gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg a chynyddu defnydd yr iaith
  • darparu datganiadau tryloyw cyhoeddus o’r hyn rydym yn bwriadu ei gyflawni, a sut y byddwn yn gallu dangos pan fyddwn wedi ei gyflawni
  • sicrhau bod ein gweithgareddau rheoleiddio yn canolbwyntio ar ganlyniadau i ddefnyddwyr y Gymraeg ac yn cael y traweffaith mwyaf ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, a
  • lliniaru’r risg bod sefydliadau yn canolbwyntio ar gydymffurfiaeth caeth yn hytrach na chanlyniadau da i ddefnyddwyr y Gymraeg.

Yn gyson â’n dull o gyd-reoleiddio, bwriad y deilliannau hyn yw cynrychioli nodau ac amcanion cyffredin Comisiynydd y Gymraeg, sefydliadau cyhoeddus a defnyddwyr y Gymraeg, a’n bod ni i gyd yn eu perchnogi.

Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn ystyried cydymffurfiaeth sefydliadau yng nghyd-destun y deilliannau rheoleiddio i’r dyfodol, gan asesu’r graddau mae lefelau cydymffurfiaeth presennol yn debygol o’n harwain at gyflawni’r deilliannau yma.

Block background image

Deilliannau rheoleiddio

Deilliannau rheoleiddio