Mae ein cynhadledd Technoleg, Gwasanaethau Digidol a’r Gymraeg yn gyfle i sefydliadau drafod yr heriau a’r llwyddiannau wrth geisio cynnig gwasanaethau digidol a defnyddio technoleg newydd i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a chydymffurfio â dyletswyddau iaith. Rydym wedi cydweithio â phartneriaid sydd yn arloesi yn y maes technoleg a’r Gymraeg i drefnu’r digwyddiad a bydd cyfle i chi ddysgu am y gefnogaeth sydd ar gael a’r datblygiadau diweddaraf yn y maes gan Is Adran Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a Chanolfan Bedwyr. Bydd cyfle i chi hefyd glywed am arferion effeithiol gan sefydliadau eraill sydd wedi llwyddo i gynnig gwasanaethau digidol yn Gymraeg.
Gallwch weld agenda'r gynhadledd yma a chofrestru isod. Dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â post@cyg-wlc.cymru.
Yn anffodus mae'r sesiwn hon bellach yn llawn. Os hoffech i ni roi eich enw ar restr aros cysylltwch â Tesni.Glyn@cyg-wlc.cymru.