Mae’r Comisiynydd bob amser yn rhoi sylw i’r egwyddor y dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno. Rydym yn treulio cyfran helaeth o’n bywydau yn y gwaith, ac felly rydym eisiau galluogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith i’r graddau y mae hynny’n bosib.
Mae strategaeth Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, yn sôn am y gweithle fel gofod allweddol ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Dywedir bod y “gweithle’n ganolog i’n bywydau bob dydd ac yn bwysig o ran datblygiad ieithyddol unigolion”, gan ei fod yn gyfle i siaradwyr ar bob lefel ddefnyddio ac ymarfer yr iaith. Noda’r strategaeth fod “rhai cyrff eisoes yn arwain y ffordd yn hyn o beth ac yn defnyddio’r Gymraeg fel iaith gweinyddu fewnol, gan gynyddu’r galw am sgiliau Cymraeg a chyfleoedd i’w defnyddio”.
Mae’n ofynnol i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg lunio polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, gan egluro sut y bydd y polisi hwnnw’n hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg.
Mae cyfres o fodelau polisi yma sy’n berthnasol ar gyfer sefydliadau sydd ar fannau gwahanol ar y continwwm iaith neu yn gweithredu mewn dulliau penodol. Mae’r modelau polisïau yma yn seilwaith i sefydliadau yrru newid ac i gwrdd â ddyheadau i gynyddu defnydd dyddiol o’r Gymraeg.