Cyflawni newid gyda’n gilydd

Graffeg pobl a ebost

Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad sy’n rhoi trosolwg o gydymffurfiaeth â dyletswyddau iaith ar gyfer 2023-24.

Mae’r adroddiad blynyddol hwn, sydd yn dwyn y teitl Cyflawni newid gyda’n gilydd yn gyfle i adlewyrchu ar y ffordd y mae sefydliadau yn meddwl am y Gymraeg wrth lunio polisïau ac wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau yn y Gymraeg.

Mae’r adroddiad yn dangos bod cydymffurfiaeth sefydliadau cyhoeddus â safonau’r Gymraeg yn gwella ac mae sicrwydd uchel bod nifer o sefydliadau yn darparu gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel.

Ystadegau am y byrddau iechyd

Rydym yn falch i nodi bod y sectorau iechyd ac addysg wedi ymateb yn gadarnhaol i’r her a osodwyd iddynt y llynedd a gwelwyd cynnydd cyffredinol yn eu cydymffurfiaeth. Mae ein gwaith arolygu hefyd wedi adnabod lle mae’r sefydliadau hynny wedi buddsoddi amser ac adnoddau i newid eu trefniadau er gwell.

Fodd bynnag, mae dal gwaith i’w wneud yn y blynyddoedd nesaf os ydym am gyflawni’r
deilliannau rheoleiddio rydym wedi eu gosod a gweld sefydliadau yn darparu gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel, ac yn gwarantu profiad cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr ar bob achlysur.

Gallwch weld y prif ganfyddiadau yma a darllen yr adroddiad yma

Block background image

Cyflawni newid gyda’n gilydd: Adroddiad 2023-24

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma

Lawrlwytho
Block background image

Adroddiadau

Gallwch weld ein holl adroddiadau yma.

Adroddiadau