Cofleidia dy iaith: Cynyddu defnydd o ieithoedd lleiafrifol a swyddogol
Cynhaliwyd wythfed cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yng Nghaerdydd ar 11 Mehefin 2024. Roedd y gynhadledd yn gyfle i archwilio effeithiau trawsnewidiol deddfu o blaid ieithoedd yng Nghymru a thu hwnt. Yn ogystal â sesiynau ymarferol yn rhannu profiadau sefydliadau o Gymru, roedd cyfraniadau gan y prif siaradwyr isod:
- Raymond Théberge, Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada
- Yr Athro Fernand de Varennes, Cyn-Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau lleiafrifoedd
- Séamas Ó Concheanainn, Coimisinéir Teanga
Lansiad Swyddogol y Gynhadledd
Cynhaliwyd digwyddiad i lansio'r gynhadledd ar 10 Mehefin ym Mae Caerdydd. Roedd y lansiad yn gyfle i ddathlu dengmlwyddiant y Gymdeithas yng nghwmni:
- Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg a Chadeirydd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith
- Delyth Jewell AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol Senedd Cymru
- Yr Athro Fernand de Varennes, Cyn-Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau lleiafrifoedd
Noddwyd y lansiad gan Delyth Jewell AS.
Diolch arbennig i Darwin Gray am eu nawdd hael.