Menyw yn gweithio mewn swyddfa yn gwenu

Cynhaliodd Dr Awel Vaughan-Evans, darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, ymchwil i ddarganfod pa giwiau, yn cynnwys ein logo Iaith Gwaith, sydd fwyaf effeithiol o ran ysgogi pobl i ddechrau sgyrsiau yn Gymraeg mewn siopau, swyddfeydd, a mannau cyhoeddus eraill. 

Mae siaradwyr Cymraeg yn gyfarwydd â’r logo oren Iaith Gwaith, sy’n nodi eich bod yn gallu siarad Cymraeg wrth siarad â rhywun mewn siop neu wasanaeth. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol am y cynllun hwn, ac am ddosbarthu nwyddau Iaith Gwaith.

Y prif ganlyniad o’r ymchwil oedd bod pobl yn fwy tebygol o ddewis Cymraeg fel iaith i’w siarad pan oedd y logo Iaith Gwaith yn bresennol na phan nad oedd y logo yn bresennol.

Gallwch ddarllen mwy yma.