Ann Parry Owen

Mae’r Athro Ann Parry Owen yn aelod o Banel Safoni Enwau Lleoedd y Comisiynydd. Gallwch weld pwy yw aelodau eraill y Panel yma.

Ein gwaith ni fel Panel Safoni Enwau Lleoedd yw cynghori – ac yn benodol cynghori swyddogion Comisiynydd y Gymraeg wrth iddyn nhw gynnal prosiectau safoni enwau lleoedd ar y cyd ag awdurdodau lleol ac argymell ffurfiau safonol iddynt eu defnyddio.

Mae’r Panel yn dilyn Canllawiau Safoni penodol wrth lunio’i argymhellion. Mae’r Canllawiau hynny’n pwysleisio pwysigrwydd dilyn rheolau orgraff yr iaith wrth gynghori sut i sillafu enwau lleoedd. Yn 1967 cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru Rhestr o Enwau Lleoedd / A Gazeteer of Welsh Place-Names, gyda rhagymadrodd cryno gan Elwyn Davies yn esbonio’r rheolau hynny yng nghyswllt enwau lleoedd. Dyma yw sylfaen Canllawiau’r Comisiynydd a’r Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol.

Mae Rhestr Gwasg Prifysgol Cymru wedi cael ei chydnabod am dros hanner canrif fel y lle i droi er mwyn gwybod sut i sillafu enwau lleoedd, ac mae’r rhan fwyaf o’r egwyddorion sillafu yn mynd yn ôl i’r 1920au a’r gwaith ar safoni orgraff yr iaith Gymraeg a wnaethpwyd gan y Bwrdd Gwybodau Celtaidd bryd hynny. Nid oes ond rhaid troi ar wefan Papurau Newydd Cymru i weld pa mor anghyson oedd orgraff y Gymraeg yn y ganrif cyn hynny a chymaint oedd yr angen am safoni. Mae egwyddorion y Bwrdd Gwybodau Celtaidd yn sail i’r ffordd rydym yn sillafu’r Gymraeg heddiw. Felly mae patrymau sillafu enwau lleoedd yn dilyn patrymau sillafu safonol yr iaith Gymraeg – fel y’i gwelir ar waith yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru a chyhoeddiadau safonol eraill. Nid oes dim yn newydd yma. Dyma’r safon ddisgwyliedig.

O ran ein gwaith ni fel Panel, rydym ni’n dilyn y rheolau hyn yn agos iawn. Dyma a ddefnyddiwn wrth argymell ffurfiau safonol ar gyfer enwau newydd, nad oeddynt yn y Rhestr flaenorol – hynny ydi, nid yw’r rheolau wedi newid o gwbl. Os ydym yn achlysurol yn mynd yn groes i ffurf sy’n cael ei hargymell yn y Rhestr neu’n newid ein hargymhelliad am sillafiad enw lle, mae’n rhaid fod rheswm da iawn, a thystiolaeth gadarn, dros hynny. A gallaf eich sicrhau fod trafodaeth frwd wedi bod cyn gwneud unrhyw benderfyniad i newid argymhelliad blaenorol (a bydd esboniad llawn am y newid yn y nodiadau ynghlwm wrth yr enw ar wefan y Comisiynydd maes o law wrth i’r wefan newydd gael ei datblygu).

Un o egwyddorion sylfaenol Rhestr 1967, a ninnau heddiw, yw bod enwau aneddiadau (yn ddinasoedd, trefi, pentrefi a phentrefannau) yn cael eu hysgrifennu fel arfer fel un gair. Felly Nantperis yw enw’r pentref yng Ngwynedd, ond Nant Peris yw enw’r nant ei hun sy’n llifo drwy’r pentref, neu enw’r dyffryn. Enw daearyddol yw’r ail ac mae ei sillafu fel dau air ar wahân yn dangos hynny’n glir i’r defnyddiwr. Rhaid pwysleisio nad yw enwau afonydd, nentydd, mynyddoedd, dyffrynnoedd ac ati yn cael eu cynnwys eto yn Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol y Comisiynydd.

Beth am y cysylltnod felly?

Does dim byd wedi newid yn fan hyn ychwaith, ac mae’r Panel yn dilyn rheolau cyffredinol yr iaith Gymraeg. Un o’r prif resymau dros gael sillafiad safonol i enw lle yw rhoi arweiniad i bobl ar sut i’w ynganu. Yn y Gymraeg mae prif acen gair bron bob tro yn disgyn ar y sillaf olaf ond un: penbleth, ysgol, ysgolion. Felly os yw’r brif acen hon mewn lle gwahanol i’r disgwyl, mae cysylltnod yn gallu rhoi arweiniad defnyddiol ar sut mae gair i fod i gael ei ynganu’n gywir.

Cymerwn Penyberth (pen + y + berth) a Pen-y-bont (pen + y + bont). Mae’r cyntaf wedi ei ysgrifennu fel un gair, ac yn cael ei acennu yn y dull arferol, gyda phrif acen y gair ar y sillaf olaf ond un: Penýberth. O ran yr ail, mae’r brif acen ar y sillaf olaf yn wahanol i’r hyn sy’n arferol, ac mae’r cysylltnodau yn dangos hynny. Ceir Llysfaen yn Sir Conwy (yr acen ar Llys) ond Llys-faen yng Nghaerdydd (a’r acen ar faen). Dyma’r egwyddor sydd y tu ôl i ffurfiau fel Aber-porth, Bryn-glas, Pentre-cwrt, Tre-saith ac ati.

Dyma hefyd y rheol a geir yn y Gymraeg yn gyffredinol – ac sy’n helpu ni i wahaniaethu, er enghraifft, rhwng di-flas, am fwyd sydd heb flas arno, a diflas am rywbeth sy’n anniddorol i’r eithaf. Mae gwahaniaeth ystyr rhwng y ffurfiau, ac felly mae’r cysylltnod yn gwneud gwaith pwysig yn gwahaniaethu, yn union fel mae’n gwahaniaethu rhwng enwau lleoedd.

Fodd bynnag, mae rhai enwau sydd wedi ennill eu plwyf yn genedlaethol, enwau fel Caerdydd, Llanrwst a Phontypridd, yn cael eu hystyried yn eithriadau i’r rheol. Barn y Panel gwreiddiol oedd bod yr enwau mor enwog fel nad oedd dryswch yn debygol. Ond prin yw’r eithriadau hyn. Wrth gwrs, mae pawb yn gwybod yn iawn sut i ynganu eu henwau lleoedd lleol nhw eu hunain – ac felly mae’n gwbl naturiol i deimlo bod y cysylltnod yn ddiangen. Ond rhaid cofio ei fod yno i roi arweiniad ar ynganiad i bawb – i hysbysu rhywun o Lysfaen yng Ngwynedd fod Llys-faen yng Nghaerdydd yn cael ei ynganu’n wahanol.

Crynodeb arwynebol yw hyn, wrth gwrs ͏– ond gobeithio ei fod yn ddefnyddiol i bwysleisio’r rhesymeg a’r egwyddorion y mae’r Panel yn eu dilyn. Mae llawer o ôl meddwl y tu ôl i’r penderfyniadau sydd yn cael eu gwneud gan y Panel heddiw, fel gan ein rhagflaenwyr. Mae orgraff yn gyffredinol yn faes dyrys – ond nid yw orgraff y Gymraeg hanner mor ddyrys ag orgraff iaith ein cyfeillion dros y ffin yn Lloegr, lle mae gwir ynganiad rhai enwau, fel Leominster, Frome a Bicester yn gallu bod yn syndod. Mae orgraff y Gymraeg, ar y llaw arall, yn cynnig arweiniad cadarn ar sut i ynganu enw lle, ac mae hyn yn gymorth sicr i ddysgwyr, i blant ysgol, yn ogystal ag i ymwelwyr o rannau eraill o Gymru nad ydynt o reidrwydd yn gyfarwydd ag ynganiad cywir enw lle penodol.

Y cwestiwn i’w ofyn yw, lle bydden ni pe na bai gennym ni restr safonol fel un y Comisiynydd? Yn Lloegr, mae pobl yn aml yn ystyried mai’r safon gydnabyddedig yw’r sillafiad ar fapiau’r Arolwg Ordnans, neu’r hyn a welir ar arwydd. Ni fyddai hynny’n gweithio yng Nghymru – nid oes unrhyw gysondeb o gwbl yn y ffurfiau a geir o un map i’r llall, nac o un arwydd i’r llall yn aml iawn. Mae’n gymwynas fawr bod gan bobl un ffynhonnell i droi ati am ateb cadarn ynghylch sut mae sillafu enw lle. Mae Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru Comisiynydd y Gymraeg yn rhestr fyw sy’n cael ei diweddaru’n gyson. Rydym ni’n ffodus iawn bod gennym ni seilwaith mor gryf i’n defnydd o’r iaith Gymraeg a bod sefydliadau yng Nghymru wedi gweld yr angen i fuddsoddi yn y seilwaith ieithyddol honno.