Dydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021 yw Diwrnod Hawliau'r Gymraeg.
Dyma gyfle i sefydliadau cyhoeddus hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd. Mae gan siaradwyr Cymraeg hawl i gael gwasanaethau Cymraeg heb orfod gofyn amdanynt.
Safonau’r Gymraeg sy’n creu’r hawliau hyn. Ar Ddiwrnod Hawliau’r Gymraeg rydym yn cydweithio â’r sefydliadau sy’n gweithredu’r safonau i dynnu sylw at gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith, ac i wella'r gwasanaethau y maent yn eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gan weithwyr mewn sefydliadau hefyd yr hawl i gael defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.

Mae'r diwrnod yn cael ei gynnal ar 7 Rhagfyr oherwydd mai dyma’r dyddiad y pasiwyd Mesur y Gymraeg gan y Senedd. Mae’r Mesur yn cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg, ac yn datgan na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru. Arweiniodd hyn at sefydlu hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio gyda sefydliadau cyhoeddus.

Dyma rai o’ch hawliau:
- Derbyn llythyron neu e-bost yn Gymraeg.
- Arwyddion dwyieithog.
- Sgwrsio ar y ffôn yn Gymraeg.
- Derbyn gwersi nofio yn Gymraeg drwy’r cyngor.
- Rhaid i arwyddion ffordd fod yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Os hoffech chi gwyno wrth y Comisiynydd am eich profiadau o ddefnyddio'r Gymraeg gyda sefydliadau cysylltwch gyda ni.
Dyma brofiadau staff ac aelodau o'r cyhoedd o ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith a gyda sefydliadau cyhoeddus.

Ydych chi'n gweithio i sefydliad cyhoeddus?
Rydym yn gweithio gyda sefydliadau cyhoeddus ar draws Cymru i dynnu sylw at yr hawliau sydd gan bobl i ddefnyddio’r Gymraeg.
Os hoffech gymryd rhan yn y diwrnod, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.