Ceisio Barn: Polisi Gorfodi Comisiynydd y Gymraeg

Rydym yn awyddus i glywed eich barn ar newidiadau rydym yn eu cynnig i'n Polisi Gorfodi

Er nad ydym ni’n dod o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rydym yn cefnogi’r 5 ffordd o weithio. Mae Cymru lle mae’r Gymraeg yn ffynnu yn un o’r 7 nod llesiant, ac yn unol â’n dull o gyd-reoleiddio, rydym yn ymrwymedig i ymgysylltu a chynnwys rhanddeiliaid yn ein gweithgareddau rheoleiddio. 

Mae eich adborth yn bwysig i ni a bydd yn ein helpu i siapio’r ffordd yr ydym yn rheoleiddio ac yn hyrwyddo cydymffurfiaeth â safonau'r Gymraeg.

Beth yw Polisi Gorfodi?
Mae’r polisi hwn yn ddogfen statudol sy’n rhoi cyngor a gwybodaeth ar sut y byddwn yn sicrhau bod sefydliadau yn cydymffurfio â safonau’r Gymraeg. Mae’n egluro sut y byddwn yn delio â diffyg cydymffurfiaeth a pha gamau y byddwn yn eu cymryd mewn gwahanol amgylchiadau.

Pam rydym yn cyflwyno newidiadau i’r Polisi Gorfodi?
Yn gynt eleni, fe wnaethom ymrwymo i gyd-reoleiddio gyda ffocws cryf ar hybu hunan-reoleiddio. Mae’r dull newydd hwn yn annog cydweithio a phartneriaeth gyda sefydliadau.

Rydym bellach wedi gosod deilliannau rheoleiddio – deilliannau sy’n cynrychioli nodau ac amcanion cyffredin sefydliadau, defnyddwyr y Gymraeg yn ogystal â ninnau fel Comisiynydd y Gymraeg. Bydd y deilliannau hyn yn cyfeirio’r ffordd y byddwn yn rheoleiddio, a byddwn yn canolbwyntio ar y meysydd hynny sy’n debygol o gael y traweffaith mwyaf ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg. 

Rydym am wneud yn siŵr nad yw rheoleiddio yn golygu cynnal ymchwiliadau statudol a gosod camau gorfodi yn unig. Rydym am gynyddu’r gefnogaeth reoleiddio sydd ar gael drwy ddarparu cyngor, codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, a chefnogi sefydliadau i gydymffurfio â’r safonau. 

Mae llwyddiant dull cyd-reoleiddio yn dibynnu ar fod yn agored ac yn onest. Rydym yn annog sefydliadau i gysylltu â ni yn gynnar i roi gwybod am unrhyw risg o ddiffyg cydymffurfiaeth, ac rydym yn croesawu ceisiadau am arweiniad.

Sut y byddwn yn ymdrin â chwynion?
Pan fydd cwynion am wasanaethau Cymraeg yn cael eu cyflwyno, byddwn yn rhoi cyfle i sefydliadau ddefnyddio eu gweithdrefnau cwyno eu hunain i ymateb a chynnig datrysiad amserol. Os nad yw hynny’n bosibl, neu os yw’r achwynydd yn anfodlon â’r canlyniad, byddwn yn ystyried cynnal ymchwiliad.

Byddwn yn parhau i ymdrin â chwynion ac ymchwilio ein hunain pan fyddwn yn credu bod hynny'n debygol, yn ein barn ni, o gael effaith bositif ar gyflawni ein deilliannau rheoleiddio. Bydd gweithredu yn y ffordd yma yn ein galluogi i wneud y defnydd gorau o adnoddau tra’n pharhau i gyflawni ein dyletswydd statudol o dderbyn cwynion a defnyddio ein pwerau gorfodi i sicrhau cydymffurfiaeth ble mae angen.

Beth yw'r prif newidiadau i’r polisi?

Mae’r polisi diwygiedig yn:

  • Pwysleisio dull cyd-reoleiddio gyda ffocws cryf ar hybu hunan-reoleiddio gan sefydliadau.
  • Cynnig egwyddorion rheoleiddio gyda mwy o bwyslais ar gydweithredu a phartneriaeth.
  • Annog sefydliadau i ddatrys cwynion yn fewnol cyn iddynt gyrraedd y Comisiynydd.
  • Pwysleisio'r angen i osgoi oedi di-angen ac yn rhoi diweddariadau rheolaidd i'r partïon dan sylw.
  • Nodi’n glir bod amrywiaeth o ddulliau y gallwn eu defnyddio i adfer cydymffurfiaeth, gan ddewis y dull gorau ym mhob amgylchiad.

Pam mae hyn yn bwysig?
Mae’r polisi diwygiedig hwn yn cynrychioli cam pwysig ymlaen yn ein gwaith rheoleiddio, gan ei gwneud yn gliriach i’r cyhoedd ac i sefydliadau sut rydym yn bwriadu ymdrin â’n prosesau yn y dyfodol.

Block background image

Polisi Gorfodi Drafft

Lawrlwytho

Rhannwch eich barn ar ein Polisi Gorfodi isod.

Bydd y cyfnod ymgysylltu yn dod i ben ar 29 Ionawr 2025.