Nod y pecyn addysg hwn yw cynnig ystod o adnoddau i athrawon ac ymarferwyr eu defnyddio wrth addysgu dysgwyr ysgolion uwchradd yng Nghymru am rôl Comisiynydd y Gymraeg a pherthnasedd gwaith y Comisiynydd i’w defnydd nhw o’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
Mae nifer o’r gweithgareddau yn cynnig cyfleoedd i’r dysgwyr ddatblygu sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol Cwricwlwm i Gymru, a’u hannog i’w cymhwyso a’u datblygu ymhellach ar draws chwe maes dysgu a phrofiad y Cwricwlwm.
Mae’r pecyn wedi ei gynllunio i gyfateb â gofynion Cwricwlwm i Gymru, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr ddysgu am eu hunaniaeth ddiwylliannol eu hunain a meithrin eu balchder yn eu hymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn i Gymru yn ogystal â’r byd fel dinasyddion Cymru ddwyieithog mewn byd amlieithog.
Cynlluniwyd y pecyn i fod yn hyblyg er mwyn galluogi athrawon ac ymarferwyr i’w ddefnyddio mewn modd sy’n addas i’w dysgwyr ac sy’n cyd-fynd â’r amser sydd ganddynt. Mae’r gweithgareddau’n addas ar gyfer ystod o oedrannau uwchradd, a gellir eu haddasu a’u gwahaniaethu yn ôl yr angen.
Gallwch lawrlwytho cynnwys y pecyn addysg isod
Cysylltwch â ni os hoffech chi dderbyn y pecyn ar ffurf Power Point.