Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Yr Iaith Gymraeg – creu perthynas gryf gyda’ch cyfranwyr yng Nghymru

Erthygl gan Gethin Edwards, Uwch Swyddog Tim Hybu’r Comisiynydd ar gyfer Elusennau a Busnesau
 
Gyda chynifer o elusennau ac achosion da’n cystadlu am sylw a chyfraniadau, mae angen bod yn weladwy mewn marchnad gystadleuol, gan gynnal perthynas agos â chyfranwyr. Mewn ymchwil a gynhaliwyd gan gwmni ymchwil i’r farchnad Accenture, dywedodd 62% o bobl ifanc y bydden nhw'n fodlon cyfrannu 10% yn fwy petai’r elusen yn cynnig gwasanaeth personol.
 
Mae siarad gyda phobl yn eu hiaith gyntaf yn un ffordd o greu cyswllt personol.

Gofynnwyd i 800 o bobl ar draws Cymru, beth oedd yn gwneud iddynt gefnogi elusen? Wrth i berson benderfynu pa elusen roedden nhw am roi eu harian, does dim syndod eu bod yn penderfynu ar sail eu cred yn yr elusen, neu os oedd ffrind neu aelod o’r teulu wedi derbyn cefnogaeth gan yr elusen honno.

Gofynnwyd wedyn a oedd pobl yn credu y dylai elusennau sy’n gweithio yng Nghymru farchnata’n ddwyieithog. Cytunodd 70% o’r rheiny oedd yn cymryd rhan yn yr ymchwil, y dylai elusennau farchnata’n ddwyieithog. Holwyd siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg. Roedd cysylltiad yn cael ei weld rhwng defnyddio’r Gymraeg a bod yn elusen leol gydag enw da. Dyma rai dyfyniadau o’r ymchwil:
 
“Oherwydd ein bod yng Nghymru –mae gennym ein hiaith ein hunain a dylai elusennau gydnabod hynny.”

“Mae o’n fwy cartrefol ac yn perthyn i Gymru ac yn teimlo’n fwy personol rywsut.”

“Dwi’n rhoi pres dwi ‘di gweithio’n galed amdano a dwi am weld y pres yna’n cael ei wario yng Nghymru, os dio’n ddwyieithog dwi’n gwybod bo ganddyn nhw ddylanwad Cymreig.”

Gofynnwyd hefyd a fydden nhw’n fwy tebygol o gefnogi elusen sy’n marchnata dwyieithog. Cytunodd 30% o’r ymatebwyr eu bod yn cytuno neu gytuno’n gryf fod hwn yn ffactor ddylanwadol. Gall unrhyw reolwr codi arian weld fod defnyddio’r Gymraeg yn eich rhoi ar y blaen a bod gwerth mewn manteisio ar hyn.

Dyma enghreifftiau o elusennau sydd wedi gweithio gyda Tîm Hybu’r Comisiynydd ar ddatblygu eu defnydd o'r Gymraeg a sut mae wedi cynorthwyo gyda’u hymgyrchoedd codi arian a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’u gwaith.

Achub y Plant
Rhian Brewster, Rheolwr Cyfathrebu a’r Cyfryngau – Cymru
 
“Mae gennym berthynas gref gyda thîm y Comisiynydd, mae eu hymchwil wedi’n helpu i gael mwy o gefnogaeth gan ein prif swyddfa ac i deilwra ymgyrchoedd cenedlaethol fel bod iddynt deimlad Cymreig cryf.”
 
“Ysgolion ydi’n prif gynulleidfa ar gyfer ein hymgyrch Siwmper Nadolig. Gyda cymaint o ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru a bron i hanner plant 5 i 15 mlwydd oed yng Nghymru’n gallu siarad Cymraeg, mae’n gwneud synnwyr i ni ei wneud yn ddwyieithog. Mae ein darpariaeth ddwyieithog wedi cynyddu dros y pedair blynedd diwethaf. Nawr mae’r holl gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog ac mae gennym lysgenhadon brand sy’n cael eu cyfweld yn y Gymraeg ar y radio a’r teledu. Mae hyn wedi cynyddu’r cyrhaeddiad a’r nifer o bobl sy’n ymwneud â’r ymgyrch. Mae nifer o becynnau sy’n cael eu dosbarthu i ysgolion wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.”
 
DEC Cymru (Disasters Emergency Committee)
Casia Wiliam, Rheolwr Cysylltiadau Allanol, Cymru
 
“Mae DEC yn tynnu 14 o brif elusennau cymorth y Deyrnas Unedig ynghyd mewn cyfnodau o argyfwng tramor trwy gynnal ymgyrchoedd i godi arian i helpu’r sawl a gai eu heffeithio gan yr argyfwng. Trychinebau naturiol yw’r rhain yn aml sy’n golygu bod yn rhaid i ni gyfathrebu ar frys gyda’r cyhoedd i godi’r arian sydd ei angen cyn gynted â phosib.”

“Yng Nghymru, waeth faint yw’r brys ar gyfer ymgyrch, rydym yn ceisio darparu’r ymgyrchoedd hynny’n gwbl ddwyieithog.  Gyda’n hymgyrch ddiweddaraf sef Apêl Seiclon Idai a lansiwyd fis Mawrth 2019 fe wnaethom sicrhau bod siaradwyr Cymraeg ar gael ar gyfer cyfweliadau, roeddem yn cyfathrebu’n ddwyieithog ar y cyfryngau cymdeithasol, sicrhau bod ein deunyddiau marchnata’n gwbl ddwyieithog a chynhyrchu adnoddau dwyieithog ar gyfer ein partneriaid a’n cyfranwyr.”

British Heart Foundation
Sion Edwards, Cyn reolwr codi arian British Heart Foundation Cymru:

“Fe wnaethom ddatblygu rhwydwaith gymunedol ddwyieithog, o ganlyniad i hyn, daeth sawl cyfle newydd i’r gymuned godi arian yng Nghymru. Mae gennym 15 siaradwr Cymru sy’n gwirfoddoli i ni, a thrwy hyn fe sefydlwyd 3 perthynas gydag Elusen y Flwyddyn oedd werth dros £150,000. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib oni bai ein bod wedi personoli ein dull o ymgysylltu gyda grwpiau lleol yn eu hiaith gyntaf.”
 
Cymorth Cancr Macmillan
Kerry-Lynne Pyke, Uwch Reolwr Cyfathrebu Allanol:

“Dwi ddim yn meddwl y byddem ni mor llwyddiannus oni bai ein bod yn defnyddio’r Gymraeg. Mae’n ein gwneud ni’n berthnasol i bobl yng Nghymru sydd â chancr, eu teuluoedd a’n cefnogwyr.”

“Rydym yn defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol a’n deunyddiau marchnata. Gydag un o’n prif ymgyrchoedd Bore Coffi Mwya’r Byd, rydym wedi dylunio adnoddau Cymraeg y gall pobl eu golygu a’u llwytho er mwyn i bobl allu hyrwyddo eu digwyddiadau.”

Canfyddiadau

Gall yr iaith Gymraeg olygu llawer o bethau gwahanol i wahanol bobol. Mae gan siaradwyr rhugl gyswllt personol cryf gyda’r iaith ond gall hefyd dynnu ar gysylltiadau personol gyda phobl nad ydynt yn siarad Cymraeg. Mae o’n fodd o gysylltu gydag emosiynau pobl a’u synnwyr o berthyn. Gellir dehongli:
 
Cymraeg = lleol, personol, sensitif
Cymraeg = parch, “fy iaith”
Cymraeg = iaith fy mhlant
Cymraeg = teyrngarwch
 
O sgwrsio gyda swyddogion codi arian a swyddogion cyfathrebu rydym yn cael yr argraff fod defnyddio’r Gymraeg yn elfen holl bwysig o ymgyrch lwyddiannus. Mae’n anodd mesur union effaith y Gymraeg ar ymgyrchoedd ond mae’r enghreifftiau uchod yn dangos bod y swyddogion yn gweld  gwerth yr iaith. Wrth i chi geisio gwella eich dealltwriaeth o’ch cyfranwyr presennol a darpar gyfranwyr, a deall beth sy’n eu hannog i’ch cefnogi, mae’n bwysig cynnwys y Gymraeg.

Beth  sy’n amlwg o’r enghreifftiau hyn ydy bod defnyddio’r Gymraeg wedi bod yn rhan bwysig o ennill cefnogaeth ysgolion a chefnogwyr allweddol. Mae angen rhagor o ddata pendant sy’n profi gwerth ariannol buddsoddi’n y Gymraeg. Gydag elusennau’n datblygu dulliau mwy personol o ddeall a thargedu eu cynulleidfaoedd, mae’n debyg y cawn well darlun dros y blynyddoedd nesaf.

I drafod eich profiadau ac i ddatblygu eich defnydd o’r Gymraeg gallwch gysylltu â Thîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg:


 

 
 

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau