Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Y swigen siarad oren yn dathlu pen-blwydd yn 15 oed

Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn dathlu 15 mlynedd ers lansio swigen siarad oren ‘Iaith gwaith’ ar 18 Tachwedd 2020 eleni. Cynllun sydd wedi mynd o nerth i nerth, gyda chyfartaledd o 54,494 o fathodynnau, cortyn gwddf a phosteri yn cael eu dosbarthu yn flynyddol.
 
Ers lansio yn 2005, mae’r swigen wedi ei defnyddio mewn amryw o ffyrdd creadigol megis ar helmedi peirianwyr, faniau trydanwyr, magnedi ar gefn gwlâu cleifion, tatŵs yn ystod Eisteddfodau a’r wythnos hon, fel opsiwn i’w roi fel cefndir ar wefannau cyfarfod megis Zoom a Microsoft Teams.
 
Mae hefyd wedi ysbrydoli’r Alban i fabwysiadu cynllun tebyg. Yn Hydref 2019 fe wnaeth Bòrd na Gàidhlig (Bwrdd yr Iaith Aeleg) lansio swigen las i annog siaradwyr Gaeleg i roi gwybod i bobl yn yr Alban a thu hwnt eu bod yn gallu siarad yr iaith.
 
Ifan Evans oedd Cyfarwyddwr Sector Preifat Bwrdd yr Iaith pan lansiwyd y bathodyn yn 2005. Mae bellach yn gweithio fel Cyfarwyddwr Technoleg Digidol a Thrawsnewid yn Adran Iechyd Llywodraeth Cymru.
 
“Fe wnaethon ni lot o waith gyda’r banciau, archfarchnadoedd, a’r sector preifat yn ogystal â’r sector iechyd a gwasanaethau cyhoeddus, i wneud yn siŵr eu bod nhw’n defnyddio’r swigen  newydd o’r dechrau. Roedden ni eisiau sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o’n brand newydd ffres, lliwgar ni.
 
“Roedd bathodyn yn bodoli cyn y swigen; siâp cwlwm – coch a gwyrdd. Ond roedd ymchwil yn dangos bod pobl yn meddwl ei fod yn rhy gorfforaethol, roedd rhai yn anghytuno gyda cysylltu cenedligrwydd a iaith trwy ddefnyddio coch a gwyrdd. Felly roedd y bathodyn newydd yn fwriadol wahanol a modern ei olwg.
 
“Roedd y swigen yn rhan o’n cynllun i annog busnesau i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg. Roedd yn allweddol ein bod yn hyrwyddo’r ffaith fod yr iaith o fantais wrth gyfathrebu. Er enghraifft, roeddem yn cydweithio gyda banciau fel Natwest i gynnig gwersi iaith i’w staff fel dull gwella gwasanaeth cwsmeriaid, ac arweiniodd hyn at y penderfyniad i ail-frandio fel “Natwest Cymru”, ac fe wnaeth y Principality ymgyrch gan ddefnyddio’r gair ‘Diolch’ yn unig. Arweiniodd ymgyrch Iaith Gwaith hefyd at y Gymraeg ar diliau hunan-wasanaeth archfarchnadoedd, a chynyddu defnydd ar y stryd fawr.”
 
Lansiwyd y swigen gyntaf yn siop Leekes, yn eu cangen yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, a phymtheg mlynedd yn ddiweddarach mae’r staff yn parhau i ddefnyddio’r bathodynnau. Meddai Rheolwr Cyfarwyddwr Leekes, Emma Leeke:
 
“Roeddem wrth ein bodd 15 mlynedd yn ôl o gael ein dewis fel y safle i lansio menter sy’n hybu siarad Cymraeg yn ein siopau. Fel busnes Cymreig sydd â chysylltiadau agos i’r gymuned, mae ein tîm yn frwdfrydig i ddefnyddio'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd ac yn falch o siarad yn y Gymraeg gyda rhai y mae'n iaith gyntaf iddyn nhw, a hefyd i gefnogi dysgwyr.”
 
Ychwanegodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, “Rydym yn hynod falch o’r cynllun Iaith Gwaith – cynllun ymarferol sydd yn rhoi arwydd clir i bobl fod gwasanaeth Cymraeg ar gael. 
“Mae Iaith Gwaith wedi hen ennill ei blwyf yng Nghymru, ac yn adnodd defnyddiol i sefydliadau cyhoeddus, busnesau ac elusennau i ddangos i gwsmeriaid pwy all siarad Cymraeg.
 
“Ond, rydym yn sylweddoli fod amgylchiadau wedi newid yn ddiweddar, ac nad yw bathodyn a chortyn gwddf yr un mor berthnasol ar hyn o bryd gyda'r mwyafrif yn gweithio o adref neu yn gorfod gwisgo gorchudd dros eu dillad gwaith. 
 
“Felly rydym yn hynod falch o fod wedi datblygu y cefndir ar gyfer cyfarfodydd rhithiol sy’n cynnwys y bathodyn fel modd o adnabod siaradwyr Cymraeg dros sgrîn.” 
 
Mae adnoddau Iaith Gwaith ar gael am ddim i sefydliadau, busnesau ac elusennau gan Gomisiynydd y Gymraeg. Gellir archebu nwyddau o wefan y Comisiynydd – comisiynyddygymraeg.cymru/iaithgwaith neu trwy ffonio 0345 6033 221.
 
Mae cynllun Llywodraeth Cymru i annog busnesau bach i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg, Helo Blod, hefyd bellach yn defnyddio’r brand fel rhan ganolog o’u gwaith. 

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau