Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Nodwedd bwysicaf doctor effeithiol yw cyfathrebu’n effeithiol


Mewn dros 90% o achosion, mae taith claf gyda’r gwasanaeth iechyd yn dechrau gyda’r meddyg teulu; ac mae’n hollbwysig bod y claf yn gallu esbonio’i symptomau mor fanwl â phosib i’r meddyg, a bod y meddyg a’r claf yn gallu deall ei gilydd.
 
Mae iaith gyffredin rhwng claf a’r doctor yn hollbwysig; ac yn gallu gwneud gwahaniaeth allweddol i’r ffordd mae claf yn teimlo a hefyd i’r driniaeth sy’n cael ei rhoi.
 
Mae Dr Llinos Roberts yn feddyg teulu yn ardal Cross Hands a’r Tymbl, ac mae ganddi nifer o enghreifftiau o lle mae cyfathrebu yn Gymraeg wedi profi’n hollbwysig i ddealltwriaeth o angen claf. Un enghraifft sy’n sefyll allan amlycaf yn ei chof oedd pan ddaeth dyn ifanc ati oedd wedi bod yn byw efo symptomau o iselder ers rhai misoedd.
 
Eglura Dr Llinos: “Wrth sgwrsio, mi ddywedodd wrtha i ei fod wedi cael teimladau o fod isio niweidio ei hun a theimladau o isio diweddu ei fywyd.  Wrth gwrs, roedd rhain yn deimladau sensitif, wedi bod yn anodd iawn iddo fo’u mynegi yn ystod y sgwrs efo fi. Roedd o wedi gweld doctor arall ychydig wythnosau cynt, ac mi wnaeth o gyfaddef wrtha i nad oedd o wedi trafod y teimladau yma efo’r meddyg am un rheswm, ac un rheswm yn unig, sef nad oedd y sgwrs yna wedi ei chynnal drwy gyfrwng y Gymraeg. Doedd o ddim wedi teimlo’n gyfforddus a hyderus i drafod y materion yma’n Saesneg. Roedd y ffaith ei fod o wedi cyfaddef ac wedi trafod y materion yma wedi ngalluogi fi fel meddyg i gynnig y gofal meddygol gorau iddo fo – heb wybod y manylion yna, bydden i wedi methu â gwneud hynny.”
 
l Dr Tomos,“Yn bendant mi oedd y Gymraeg o fudd i mi yn y ward plant ac roedd rhieni yn gwerthfawrogi cael rhywun oedd yn gallu siarad Cymraeg gyda’u plentyn. Gyda phlant, os wyt ti’n siarad iaith nad ydyn nhw yn ei ddeall, mae’n anoddach eu cael hwy i ymddiried ynddo ti, a gadael i ti gynnal archwiliad.”
 
Mae hefyd wedi gweld gwahaniaeth pan yw’n siarad â phobl hŷn, sydd efallai yn byw gyda dementia ac yn ei chael hi’n anodd egluro mewn ail iaith. Dywedodd:  “Mae gen i ffrind sydd yn feddyg teulu, ac mae ganddi ychydig o Gymraeg ond tydy hi ddim yn rhugl.Mi ddaeth na ddyn oedd gydag ychydig o dementia ati, a doedd o jysd ddim yn gallu esbonio yn Saesneg beth oedd yn bod arno.Mi wnaeth hi wedyn orfod defnyddio’r ychydig o Gymraeg oedd ganddi ond yn anffodus doedd hynny ddim yn ddigon chwaith. Yn y diwedd, mi fuodd rhaid iddo drefnu i ddod i mewn i weld y doctor Cymraeg arall, fel eu bod yn cael yr hanes yn iawn ganddo.”
 
edd Dr Tomos yn ei gweld hi’n bwysig iawn ei fod yn dod nol i Gymru i weithio, er mwyn iddo gael siarad Cymraeg yn ei waith a bellach mae yn siarad Cymraeg gyda tua 90% o’r cleifion sydd yn ymweld gyda’r feddygfa.  Mae’n teimlo fod siarad Cymraeg yn sicr yn cyfrannu’n fawr iawn at y broses o ymgynghori gyda chlaf.
 
Ers 30 Mai eleni, mae dyletswydd ar fyrddau iechyd i ystyried y cyfleoedd sydd gan gleifion i ddefnyddio’r Gymraeg wrth gynllunio’u gwasanaethau gofal syl
faenol.
 
I ddysgu mwy am hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn y sector iechyd ewch i comisiynyddygymraeg.cymru/maegenihawl

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau