Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Gwerth amhrisiadwy’r Gymraeg, drwy lygaid y gweithwyr ward canser

Manon Williams yw matron unedau canser Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; ac mae hi’n gweld pob dydd sut mae cyfathrebu yn Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth mawr i les corfforol a meddwl cleifion a’u teuluoedd.
 
Wrth siarad am ei gwaith yn arwain y timoedd nyrsys ar wardiau canser yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd, dywedodd: “Mae’n bwysig iawn ein bod ni yna i siarad efo cleifion a’u teuluoedd yn y Gymraeg. Efo canser, fe all yr wybodaeth mae claf yn ei dderbyn fod yn gymhleth. Felly, dywedwch nad ydi’r meddyg neu’r ymgynghorydd yn siarad Cymraeg, yna, rydan ni yna ac yn rhoi’r amser wedyn i siarad efo pobl yn eu hiaith eu hunain a gwneud yn siŵr eu bod wedi deall yr wybodaeth am y driniaeth. Mae hyn yn ofnadwy o bwysig hefyd os ydy claf a’r teulu wedi cael newyddion drwg – maen nhw angen gallu siarad am hynny yn Gymraeg.”
 
Oedolion gyda chanser sy’n cael eu trin yn ysbytai gogledd Cymru, ac fe all yr oedolion hynny fod yn bobl sy’n anghyfforddus wrth siarad Saesneg a hefyd yn rhieni i blant bach sy’n uniaith Gymraeg neu’n fwy cyfforddus yn yr iaith.
Dywedodd Manon: “Mae gweld eu mam neu dad yn sâl, wrth gwrs, yn brofiad dychrynllyd i blant. Rhan fawr o’n gwaith ni, yn ogystal â gofalu am y rhiant ydy gwneud yr awyrgylch mor naturiol a chyfforddus â phosibl i’r plant; ac mae eu holi am eu diwrnod yn yr ysgol, am eu ffrindiau neu eu hoff deganau yn rhan o hynny. Rydan ni hefyd yna pan fydd newydd drwg yn cael ei dorri i blant, ac yn cefnogi’r rhieni wrth iddyn nhw baratoi eu plant ar gyfer galaru.
 
Mae gwasanaeth Cymraeg yn angen clinigol hefyd, ac mae Manon wedi gweld sut mae gwasanaeth Cymraeg yn gallu gwneud y gwahaniaeth sylfaenol rhwng byw a marw.
 
“Pan fydd cleifion yn gadael y ward ar ôl triniaeth, rydan ni’n rhoi taflen wybodaeth ddwyieithog iddyn nhw a rhif ffôn iddynt ein ffonio ni os nad ydyn nhw’n teimlo’n dda. Pan fyddan nhw’n ffonio, rydan ni angen gwybod po fwyaf o fanylion â phosib am sut maen nhw’n teimlo er mwyn gallu gwneud asesiad yn y fan a’r lle. Rydan ni’n gweld fel mae pobl yn gallu esbonio’u symptomau’n well yn Gymraeg os mai dyna eu hiaith gyntaf, ac mae’r disgrifiadau yma’n hollbwysig er mwyn i ni benderfynu ar beth sydd angen digwydd. Efo rhywbeth fel sepsis, er enghraifft, mae’n rhaid gweithredu’n gyflym a’u galw nhw i mewn ar frys; felly mi all cyfathrebu clir wneud gwahaniaeth anferth.”
 
Eglurodd hefyd bod yna rai sefyllfaoedd clinigol lle gall y salwch gael effaith ar allu ieithyddol cleifion.
 
“Rydych chi’n clywed fwy am hyn, efallai, efo strôc, ond mae o’n gallu digwydd efo rhai mathau o diwmors ymennydd hefyd, lle mae claf yn colli’r gallu i gyfathrebu yn ei ail iaith. Weithiau, mae’r gwahanol feddyginiaethau rydan ni’n eu rhoi iddyn nhw yn gallu newid sut maen nhw’n feddyliol ac yn golygu mai dim ond yn Gymraeg fedran nhw fynegi eu hunain.”
 
Un arall sy’n gweithio ar ward ganser yw Sioned Mair Jones, sy’n Ddietegydd yn Ysbyty Singleton, Abertawe. Dywedodd: “Mae’r Gymraeg yn bwysig iawn i rai cleifion. Dw i’n gweld rhai yn teimlo’n ofnadwy o sâl, maen nhw i ffwrdd o gartref am amser hir yn derbyn radiotherapi. Maen nhw i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd, ac yn teimlo’n fwy cartrefol wrth siarad Cymraeg.
 
“Mae rhai pobl â phroblemau dysgu yn dod i’r ward. Maen nhw’n siarad Cymraeg fel iaith, ac yn stryglo i siarad Saesneg. Dw i wedi bod yn gorfod ’sgwennu manylion i lawr iddyn nhw yn Gymraeg. Faswn i ddim yn gallu gwneud fy ngwaith heb y Gymraeg.
 
“Pan dw i’n siarad Cymraeg gydag ambell glaf dw i’n gweld eu bod nhw’n deall be’ dw i’n ddweud yn well. Maen nhw fy nhrystio i. Pan mae claf yn dod i ysbyty gynta’, maen nhw’n ofnus. Maen nhw’n dod i mewn i ysbyty, ac mae’r lle mor wahanol i be’ maen nhw wedi arfer efo.”
 
Ers mis 30 Mai eleni, mewn ysbytai ar draws Cymru, mae hi’n ddyletswydd ar fyrddau iechyd i wneud cofnod o ba iaith mae cleifion mewnol yn dymuno’i siarad ac i wneud yn siŵr bod holl staff y ward yn ymwybodol o’r dewis iaith.
 
 
I  ddysgu mwy am hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn y sector iechyd ewch i comisiynyddygymraeg.cymru/maegenihawl

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau