Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Effaith Brexit ar y Gymraeg

Erthygl gan Anna Rolewska, Swyddog Polisi Comisiynydd y Gymraeg

 
Yn ôl y cyn-Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE, David Davis AS, Brexit fydd ‘newid mwyaf ein cenhedlaeth’. Yn wir, mae’n anodd meddwl am faes polisi na fydd yn cael ei effeithio gan Brexit.
 
Ni wyddom eto pa fath o berthynas fydd rhwng Prydain a’r UE ar ôl  Mawrth  2019. Ond beth bynnag ein barn wleidyddol, mae’n deg a phriodol tynnu sylw at risgiau a heriau a allasai godi o ganlyniad i’r broses.
 
Mae yna rai meysydd sydd wedi derbyn prin iawn o sylw yn y drafodaeth hyd yma; ac yn anffodus, mae’r Gymraeg yn un o’r pynciau hynny. O ganlyniad, dros y misoedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn cyfrannu at y drafodaeth drwy amlygu risgiau posibl Brexit i siaradwyr y Gymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith.
 
Mae sectorau fel y sector amaeth a’r sector ôl-16 yn eithriadol o bwysig i’r Gymraeg. Mae’r ddwy’n cyflogi canrannau uchel o siaradwyr Cymraeg. Busnesau amaethyddol sy’n cynnal llawer o gymunedau gwledig lle siaredir y Gymraeg fel iaith naturiol pob dydd; y sector ôl-16 sy’n gyfrifol am gynhyrchu gweithlu medrus dwyieithog. Mae’r ddwy sector yn manteisio’n helaeth ar fuddion aelodaeth o’r UE, gan gynnwys cymorth ariannol, trefniadau masnachu rhydd a threfniadau teithio rhydd. Yn anffodus, golyga hyn eu bod nhw hefyd yn agored i niwed eithriadol yn sgil Brexit. Teg yw ofni bod unrhyw ergyd i’r sectorau hyn yn debygol o fod yn ergyd i’r Gymraeg hefyd.
 
Yn ogystal, mae cyllid Ewropeaidd wedi cefnogi’r Gymraeg yn fwy uniongyrchol. Llwydodd sefydliadau fel yr Urdd, y Mentrau Iaith a Four Cymru i ddenu cefnogaeth Ewropeaidd tuag at brosiectau hybu sgiliau a busnes, ac roedd y Gymraeg wrth galon eu gweithgareddau. Mae arian Ewropeaidd wedi hwyluso mentrau a phrosiectau eraill sy’n hysbys i bawb – fel adnewyddu Canolfan Nant Gwrtheyrn a chynhyrchu’r Gwyll / Hinterland. Eto, mae sail i bryderu na fydd cefnogaeth debyg ar gael ar ôl Brexit.
 
Nid goblygiadau ariannol yn unig sydd dan sylw, fodd bynnag. Mae’r UE yn blatfform pwysig ar gyfer siaradwyr amryw o ieithoedd llai i weithio ar y cyd a manteisio ar gefnogaeth ddeallusol a gwleidyddol. Mae’r Undeb yn gartref i rwydweithiau fel NPLD (Network to Promote Linguistic Diversity), a phrosiectau cyfnewid diwylliannol megis Erasmws+. Gall Brexit atal siaradwyr Cymraeg rhag manteisio ar gyfleodd fel hyn yn y dyfodol.
 
Mae goblygiadau cymdeithasol ehangach posibl hefyd. Awgrymodd y cyfreithiwr Emyr  Lewis fod perygl y bydd Brexit yn arwain at ymyleiddio llais cymunedau lleiafrifol yn y trafodaethau gwleidyddol a thanseilio parch tuag atynt. Gwyddom y bu cynnydd  trawiadol yn nifer y troseddau casineb ers pleidlais Brexit. Mae sylw hefyd wedi bod i sylwadau sarhaus sy’n targedu siaradwyr Cymraeg. Rhaid nodi nad oes ymchwil cadarn sy’n cysylltu datganiadau o’r fath â Brexit, fodd bynnag, credwn fod yr hinsawdd gymdeithasol  sydd  gennym  heddiw  yn  sgil  y  bleidlais  yn  creu  awyrgylch  sy’n  ffafriol ar gyfer  ffyniant  agweddau fel hyn.
 
Yn olaf, gall Brexit effeithio ar y gyfundrefn diogelu hawliau dynol sylfaenol yn y DU.  Mae’r  effaith  bosibl  ar  hawliau  ieithyddol  unigolion  yn  ymddangos  yn  gymharol  gyfyngedig  ar  hyn  o  bryd. Er hynny,  mae’n rhaid i ni fonitro’n ofalus  ddatblygiad  y  drafodaeth am  ddyfodol Deddf Hawliau Dynol 1998 a’r cynlluniau i gyflwyno Bil Hawliau Prydeinig yn ei  lle.
 
O’r agweddau uchod, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhywfaint o sylw i effaith posibl Brexit ar y Gymraeg yng nghyd-destun y sector amaeth. Yn y papur ymgynghorol ar ddyfodol y cymorthdaliadau i’r sector amaeth a choedwigaeth yng Nghymru – ‘Brexit a’n Tir’ – gwelwn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg i’r gyfer Cymru wledig. Fodd bynnag, dadleuom ni ac eraill fod rhaid cymryd camau llawer cryfach er mwyn diogelu’r cysylltiad rhwng y Gymraeg a’r sector amaeth, gan gynnwys dynodi’r iaith fel ‘nwydd cyhoeddus’ o dan y polisi newydd.
 
Y tu hwnt i’r sector amaeth, ni fu llawer o sylw gan Lywodraeth Cymru i oblygiadau Brexit i’r Gymraeg, a phrin yw’r dystiolaeth bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo unrhyw sylw penodol i’r mater. Ym mis Rhagfyr 2018 ysgrifennom at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE. Galwom am iddynt roi sylw i’r mater ac i ymgysylltu a’i gilydd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol Brexit ar y Gymraeg.
 
Croesawn yn gynnes hefyd adroddiad diweddar Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad risg ar effaith Brexit a’r iaith Gymraeg a’i siaradwyr. Roeddem wedi bod yn galw am asesiad o’r fath ers sbel, a byddwn yn cadw llygad barcud ar ymateb y Llywodraeth i’r argymhelliad.

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau